Deddf Adnoddau Dŵr 1991 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Dŵr 2003)

Hysbysir trwy hyn, yn unol ag Adran 37 Deddf Adnoddau Dŵr 1991 a Rheoliad 6 Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Tynnu a Chronni Dŵr) 2006 i gais gael ei wneud i Cyfoeth Naturiol Cymru gan Heidelberg Materials UK Limited am drwydded i dynnu dŵr o Clwyd Limestone Group o fewn y ffin a ffurfiwyd gan linellau syth yn rhedeg rhwng y Cyfeirnodau Grid Cenedlaethol canlynol: SH 96657 74961, SH 96657 75124, SH 96849 75304, SH 96870 75508, SH 96960 75587, SH 97266 75398, SH 97099 75138, SH 97019 75081 a SH 96832 75075 ar gyfer ei drosglwyddo i Nant Ddu yng Nghyfeirnod Grid Cenedlaethol SH 96882 76208, yn ôl y cyfraddau a’r cyfnodau canlynol: 216 metr ciwbig yr awr, 5,184 metr ciwbig y dydd a 700,000 metr ciwbig y flwyddyn drwy’r flwyddyn.

Bydd y dŵr yn cael ei dynnu er mwyn ei drosglwyddo rhwng y ffynonellau cyflenwi y cyfeirir atynt isod heb ddefnydd rhyngol.

Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus arlein. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.

Os dymunwch ofyn am gopi o’r cais neu wneud sylwadau arno, rhaid ichi wneud hynny yn ysgrifenedig, gan ddyfynnu enw’r ymgeisydd a’r Cyfeirnod PAN-025639 wrth

Cyfoeth Naturiol Cymru,
Gwasanaeth Trwyddedu,
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru ,
Parc Cathays,
Rhodfa’r Brenin Edward VII,
Caerdydd,
CF10 3NQ

neu drwy ebost i permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn 27/09/2024  fan bellaf.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, gweler adran ymgynghoriadau ein gwefan http://naturalresources.wales/?lang=cy neu ffoniwch ein Canolfan Gofal Cwsmeriaid 0300 0653000 (Dydd Llun-Gwener, 9-5).

Diweddarwyd ddiwethaf