Gwlyptiroedd a adeiladwyd ar gyfer bioamrywiaeth a chreu cynefinoedd
Gallai gwlyptiroedd a adeiladwyd ar gyfer bioamrywiaeth a chreu cynefinoedd fod yn byllau, gwalau, corsydd neu wernydd.
Gan eu bod wedi’u cynllunio i greu ecosystem gwlyptir ni fydd angen Trwydded Amgylcheddol arnynt.
Rhaid i wlyptiroedd a adeiladwyd ar gyfer bioamrywiaeth a chreu cynefinoedd beidio â derbyn dŵr gwastraff gan gynnwys dŵr gwastraff domestig neu gymysgedd o ddŵr gwastraff domestig â dŵr gwastraff diwydiannol a/neu ddŵr glaw ffo.
Byddai angen gwlyptir a adeiladwyd ar gyfer gwella ansawdd dŵr ar gyfer dŵr gwastraff.
Ni fyddai gwlyptir a adeiladwyd yn cael ei annog ar safle sy’n darparu cynefin gwarchodedig neu werthfawr sy’n bodoli eisoes. Gall y budd i fywyd gwyllt gynyddu pan gânt eu lleoli ger safleoedd gwlyptir eraill er mwyn cynyddu cysylltedd cynefinoedd.