Gwlyptiroedd a adeiladwyd ar gyfer gwella ansawdd dŵr
Bydd angen Trwydded Amgylcheddol ar gyfer gwlyptiroedd a adeiladwyd ar gyfer trin dŵr yn bennaf er mwyn gwella ansawdd dŵr. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y gwlyptir yn trin y llif sy’n mynd trwyddo i’r safon ofynnol i warchod yr amgylchedd.
Bydd y math o drwydded amgylcheddol y mae ei hangen arnoch yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Efallai y bydd angen trwydded amgylcheddol arnoch ar gyfer gollwng dŵr, neu drwydded amgylcheddol ar gyfer gwastraff a fydd yn cynnwys y gweithgaredd gollwng dŵr.
Rhagor o wybodaeth am drwyddedau ar gyfer gollyngiadau dŵr
Bydd gwlyptiroedd a adeiladwyd ar gyfer triniaeth i gyflawni niwtraliaeth o ran maethynnau hefyd yn cael eu hasesu yn unol â’n hegwyddorion niwtraliaeth o ran maethynnau.
Rhagor o wybodaeth am niwtraliaeth o ran maethynnau
Bydd unrhyw gais am drwydded yn cael ei benderfynu fesul achos yn unol â gweithdrefnau a fframwaith statudol CNC.
Fel arfer bydd gwlyptiroedd a adeiladwyd i wella ansawdd dŵr yn cynnwys un neu ragor o gelloedd yn cynnwys planhigion sy’n codi o’r dŵr sy’n briodol ar gyfer y driniaeth ofynnol. Cânt eu dylunio a’u cynnal i dderbyn a thrin dŵr / elifion / dŵr gwastraff fel na fydd unrhyw ollyngiad o’r gwlyptir a adeiladwyd yn llygru’r dŵr wyneb neu’r dŵr daear.
Ni ddylai gwlyptiroedd a adeiladwyd ar gyfer gwella ansawdd dŵr gael eu lleoli yn y canlynol:
- Parth Llifogydd 3 (ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd cyson)
- mewn parth gwarchod tarddiad dŵr (SPZ) ar gyfer cyflenwad dŵr os yw’r elifiant wedi’i drin yn cael ei ollwng i’r ddaear wedi hynny
- safle sydd wedi’i ddynodi ar gyfer cadwraeth natur neu bwysigrwydd daearegol, oni bai nad oes unrhyw effaith andwyol ar nodweddion dynodedig, neu y gellir dangos bod ganddo fudd net sylweddol i nodweddion y safle fel rhan o’r anghenion rheoli cadwraeth.
Bydd angen asesiad o’r effaith ar safle dynodedig, megis yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA) neu’r broses gydsynio Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).
Gwlyptiroedd a adeiladwyd ar gyfer elifion carthion wedi’u trin
Os yw eich gwlyptir a adeiladwyd yn rhan o’r system drin, (cyn adeg monitro’r drwydded), bydd angen i chi wneud cais am Drwydded Gollwng Dŵr neu Drwydded Gweithgaredd Dŵr Daear.
Gwneud cais am Drwydded Gollwng Dŵr neu Drwydded Gweithgaredd Dŵr Daear.
Os yw eich gwlyptir a adeiladwyd wedi’i leoli ar ôl adeg monitro trwydded y gwaith trin, dylech ofyn am ein gwasanaeth cynghori cyn ymgeisio gan y bydd angen i ni ddeall mwy am eich cynnig.
Gwneud cais am ein gwasanaeth cynghori cyn ymgeisio am drwyddedau amgylcheddol
Gwlyptiroedd a adeiladwyd ar gyfer elifion carthion heb eu trin
Os yw eich gwlyptir a adeiladwyd yn derbyn elifiant carthion heb ei drin o orlif carthffos gyhoeddus a ganiateir neu fel rhan o’r system drin y cytunwyd arni, bydd angen i chi wneud cais am Drwydded Gollwng Dŵr neu Drwydded Gweithgaredd Dŵr Daear.
Gwneud cais am Drwydded Gollwng Dŵr neu Drwydded Gweithgaredd Dwr Daear
Gwlyptiroedd a adeiladwyd ar gyfer dŵr halogedig o fwyngloddiau neu weithgareddau mwynau
Os yw eich gwlyptir a adeiladwyd yn derbyn dŵr o fwyngloddiau neu weithgareddau mwynau, bydd angen i chi wneud cais am Drwydded Gollwng Dŵr neu Drwydded Gweithgaredd Dŵr Daear.
Gwneud cais am Drwydded Gollwng Dŵr neu Drwydded Gweithgaredd Dwr Daear.
Gwlyptiroedd a adeiladwyd ar gyfer elifion gwastraff wedi’i drin o weithrediad gwastraff
Os yw eich gwlyptir a adeiladwyd yn derbyn dŵr wedi’i drin o weithrediad gwastraff, bydd angen i chi wneud cais am Drwydded Amgylcheddol Gwastraff. Mae hyn yn cynnwys triniaeth drydyddol o elifion amaethyddol wedi’u trin. Byddai’r gwlyptir a adeiladwyd yn rhan o’r gweithgaredd gwastraff, wedi’i reoleiddio o dan un drwydded wastraff.
Rhagor o wybodaeth am drwyddedau gwastraff
Gwlyptiroedd a adeiladwyd ar gyfer gweithgareddau amaethyddol
Ni ellir trin elifion, hylifau a golchion a reoleiddir o dan y ddeddfwriaeth gyfredol mewn gwlyptir a adeiladwyd. Rhaid eu casglu, eu storio a’u gwaredu mewn ffordd sy’n cydymffurfio â’r gyfraith. Mae elifion, hylifau a golchion yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:
- elifiant silwair a slyri
- ferandas unedau dofednod, iardiau casglu, mannau bwydo a golchion parlwr
- plaladdwyr, bioladdwyr, gan gynnwys ardaloedd, offer a golchion sydd wedi bod mewn cysylltiad â’r cynhyrchion hyn.
Os yw eich gwlyptir a adeiladwyd yn mynd i drin dŵr glaw ffo o adeiladau sy’n gartref i dda byw gyda fentiau to a/neu draciau a ddefnyddir gan dda byw, bydd angen i chi wneud cais am drwydded.
Gwneud cais am Drwydded Gollwng Dŵr neu Drwydded Gweithgaredd Dwr Daear.
Mathau eraill o ddŵr i’w drin gan y gwlyptir a adeiladwyd
Os yw eich gwlyptir a adeiladwyd yn derbyn dŵr o ffynhonnell nad yw wedi’i chrybwyll uchod, dylech ofyn am ein gwasanaeth cynghori cyn ymgeisio oherwydd bydd angen i ni ddeall mwy am eich cynnig.
Gwneud cais am ein gwasanaeth cynghori cyn ymgeisio am drwyddedau amgylcheddol