Mae Pwyllgor Ymgynghorol Bwrdd Gwarchod Dyfrdwy yn ymgynghori ar faterion sy’n effeithio’n sylweddol ar gadwraeth, cynnal a chadw, gwarchod, rheoleiddio, gweithredu, rheoli a gwella mordwyo diogel yn aber afon Dyfrdwy.

Yn ei rôl fel Awdurdod Harbwr aber afon Dyfrdwy, mae’n ofynnol i CNC, o dan Orchymyn Diwygio Harbwr (Rhif 2) Bwrdd Gwarchod Aber Afon Dyfrdwy 2023 (y Gorchymyn) ystyried unrhyw fater, argymhelliad neu sylw y gallai’r Pwyllgor eu cyfeirio ato neu eu cyflwyno iddo.

 

Aelodaeth

Mae’r Gorchymyn yn rhagnodi cyfansoddiad y Pwyllgor ac mae’n adlewyrchu’r ystod eang o fuddiannau rhanddeiliaid yn yr aber. Mae’r Pwyllgor yn cynnwys hyd at un ar bymtheg o aelodau, wedi’u tynnu o’r rhestr a gyflwynir yn erthygl 5(2) y Gorchymyn.

 

Dyddiadau cyfarfodydd

30 Ebrill 2024

26 Tachwedd 2024

27 Mai 2025

 

Agendâu a phapurau

30 Ebrill 2024 - Agenda (Saesneg yn unig) a chofnodion (Saesneg yn unig)

 

Diweddarwyd ddiwethaf