Cynllun Adnoddau Coedwig Usk & Glasfynydd - Cymeradwywyd 18 Tachwedd 2022

Trosolwg

Mae coedwig Glasfynydd ac Wysg yn cwmpasu mwy na 1,600 o hectarau o goetir conwydd yn bennaf sy’n cynnwys Glasfynydd, sef y prif floc coedwig, gyda’r Allt, y Batel, Glyn Tarell a Blaenbrynach.  Mae’r coetiroedd i’w cael yn ne Powys ac eithrio rhan orllewinol Glasfynydd, sydd yn Sir Gaerfyrddin. Cafodd mwyafrif y planhigfeydd eu sefydlu gan y Comisiwn Coedwigaeth yn y 1960au. Mae’r coetiroedd wrthi’n cael eu hamrywio o ran oedran, a hynny o blanhigfeydd ag oedrannau tebyg i ddosbarthiadau oedran cymysg, er mwyn cynyddu cynefinoedd yr ymylon, rheoli’r cynnyrch pren, a lleihau effeithiau plâu a chlefydau. 

Mae’r goedwig yn cyfateb i tua 1% o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru a chyfran debyg o’r cynhaeaf pren blynyddol. Mae cymdogion y goedwig yn ddaliadau amaethyddol ucheldirol ar raddfa fawr a ffermydd eraill ar ganol yr iseldir ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Cafodd rhan helaeth o’r goedwig ei sefydlu ar dir uchel, â phriddoedd gwlyb, sef amgylchedd sy’n cyfyngu ar y dewis o rywogaethau a’r dewisiadau ar gyfer rheoli, hynny yw Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith oherwydd y perygl y bydd y gwynt yn eu cwympo.

Cyfleoedd a blaenoriaethau

Wrth sefydlu'r wybodaeth sylfaenol ar gyfer y cynllun ac ymgynghori'n fewnol â staff Cyfoeth Naturiol Cymru, cytunwyd ar yr amcanion canlynol:

  1. Hyrwyddo cydnerthedd tymor hwy mewn ecosystemau coetir a glaswelltir yn unol â chyfarwyddyd:

Cyflawnir yr amcan hwn trwy gynhyrchu Cynllun Adnoddau Coedwig sy'n cydymffurfio â Safon Coedwigaeth y DU a Safon Sicr Coetiroedd y DU. Mae'r gweithrediadau coedwig a rhaglenni gwaith dilynol yn cael eu cyflwyno'n ddiogel a heb effaith niweidiol ar yr amgylchedd. Yn hanfodol, gellir gweithredu'r map cyfleoedd ychwanegol, o weithrediadau â thystiolaeth ar gyfer cydnerthedd, lliniaru’r newid yn yr hinsawdd a gwella bioamrywiaeth, pe bai adnoddau ar gael. Rhaid i'r adolygiad canol tymor o'r Cynllun Adnoddau Coedwig cymeradwy werthuso a oedd y cyflenwi'n ddiogel, yn lân ac yn effeithlon, ac a oedd y map cyfleoedd yn galluogi gwaith ychwanegol yn y goedwig.

  1. Cynnal cyflenwad cynaliadwy o bren o oddeutu 15,000 m3 o bren y flwyddyn am gyfnod cymeradwyo'r cynllun. Bydd y map Systemau Rheoli Coedwigoedd a weithredir yn gyrru rhaglenni ar gyfer seilwaith coedwigoedd, teneuo am y tro cyntaf, teneuo bioamrywiaeth, newid tirwedd, ac amrywiaeth strwythur rhywogaethau a choetiroedd, ynghyd â chysylltedd bioamrywiaeth.Monitro cyfansoddiad cynefinoedd a rhywogaethau o is-adran y gronfa ddata am bum mlynedd, cwblhau cofnodion teneuo a llwyrgwympo gyda chymariaethau â data rhagolwg cynhyrchu.

  2. Esblygu strwythur y goedwig i glustogi yn erbyn materion diogelwch, llygredd ac iechyd coed posibl fel coed peryglus, difrod gan geirw a chlustogfeydd glannau afon. Bydd y map Math o Goetir Dangosol yn hyrwyddo amrywiaeth rhywogaethau wrth ailstocio, a bydd y map Systemau Rheoli Coedwigoedd a weithredir yn gyrru rhaglenni ar gyfer cael gwared ar rwymedigaethau fel coed llarwydd sydd wedi'u heintio â Phytophthora ramorum, coed peryglus ger cyfleusterau hamdden, a gwella amodau golau mewn clustogfeydd glannau afon. Monitro cyfansoddiad cynefinoedd a rhywogaethau o is-adran y gronfa ddata am bum mlynedd.

  3. Cynnal a gwella cynefinoedd â blaenoriaeth a chefnogi rhywogaethau gwarchodedig, gan ganolbwyntio ar goetiroedd lled-naturiol hynafol, beleod ac adar Atodlen 1. Bydd cyfleoedd i ehangu cynefinoedd naturiol a chynefinoedd ar gyfer rhywogaethau gwarchodedig yn cael eu mapio ar gyfer cynllunio adnoddau yn y dyfodol. Bydd y Systemau Rheoli Coedwigoedd a'r mapiau Math o Goetir Dangosol a weithredir yn gyrru rhaglenni ar gyfer teneuo ac adfer corsydd mewn safleoedd lle gellir cyflawni'r effaith fwyaf cadarnhaol ar fioamrywiaeth. Monitro cyfansoddiad cynefinoedd a rhywogaethau o is-adran y gronfa ddata am bum mlynedd, cwblhau cofnodion teneuo a llwyrgwympo gyda chymariaethau â data rhagolwg cynhyrchu. Cofnodion o waith gwella cynefinoedd ar goetir lled-naturiol hynafol a mawndiroedd gyda monitro dilynol ar y safle.

  4. Rheoli llystyfiant a mannau agoredd i hyrwyddo amrywiaeth strwythurol mewn rhodfeydd ac ochrau ffyrdd, rheoli rhywogaethau goresgynnol, a ffafrio adfywio coed yn y lleoliadau cywir. Bydd y map Systemau Rheoli Coedwigoedd, rhodfeydd, ffyrdd a mannau agored parhaol a weithredir yn gyrru rhaglenni ar gyfer rheoli llystyfiant a fydd, lle bo hynny'n bosibl, yn manteisio ar gyfleoedd masnachol, e.e. cynaeafu tocion ar ochr y ffordd. Monitro cyfansoddiadau cynefinoedd a rhywogaethau o is-adran y gronfa ddata am bum mlynedd, a chofnodion o weithrediadau rheoli llystyfiant wedi'u cwblhau.

  5. Cynnal a gwella cyfleusterau hamdden, nodweddion treftadaeth ddiwylliannol a gwerth tirwedd y goedwig trwy weithredu'r map Systemau Rheoli Coedwigoedd sydd wedi'i brofi mewn delweddu 3D a'i asesu gan randdeiliaid mewnol ac allanol. Monitro gweithredu llwyrgwympo ac ailstocio yn is-adran y gronfa ddata am bum mlynedd yn erbyn y map Systemau Rheoli Coedwigoedd. Myfyrio ar weithrediadau i wella neu gynnal nodweddion hamdden/treftadaeth a dadansoddiad ac argymhellion o astudiaethau i wella cynnig Cyfoeth Naturiol Cymru o ran hamdden cyhoeddus, tirwedd a threftadaeth ddiwylliannol.

Mapiau

Sylwadau neu adborth

Os oes gennych sylwadau neu adborth, gallwch gysylltu â’r tîm Cynllunio Adnoddau Coedwig ar frp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Diweddarwyd ddiwethaf