Cynllun Adnoddau Coedwig Pen Y Cymoedd – Cymeradwywyd 7 Chwefror 2023

Trosolwg

Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am reolaeth gynaliadwy ar goetiroedd a choedwigoedd Cymru sy'n eiddo cyhoeddus. Fe'u rheolir er budd a lles y bobl sy'n ymweld â nhw ac sy’n dibynnu arnynt am eu bywoliaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a'u gwytnwch tymor hir yn wyneb y newid yn yr hinsawdd fel y bydd cenedlaethau'r dyfodol hefyd yn gallu mwynhau'r buddion y maen nhw’n eu darparu. Bob deng mlynedd mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu'r cynlluniau rheoli tymor hir ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crynhoi mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd.

Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Pen y Cymoedd yn cynnwys coedwig helaeth, cors fawn wedi'i haddasu a seilwaith fferm wynt ar fynydd Rhigos a’r cyffiniau. Cnydau conwydd cynhyrchiol sydd yma’n bennaf, yn ogystal â rhywfaint o goetir llydanddail a choetir hynafol yng ngwaelodion y dyffryn.Mae cyfran sylweddol o’r Cynllun Adnoddau Coedwig yn ddibynnol ar Gytundeb 25-mlynedd Adran 106 ar gyfer cyflawni Cynllun Rheoli Cynefin. Amcanion y Cynllun Rheoli Cynefin yw adfer hyd at 1,500ha o gynefinoedd brodorol, megis gorgors neu rostir gwlyb, fel lliniariad ar gyfer datblygiad fferm wynt Pen y Cymoedd.

Caiff Ystad Goetir Llywodraeth Cymru a reolir gan CNC ei harchwilio bob blwyddyn yn erbyn safon rheoli coedwigoedd cynaliadwy (Safon Sicrwydd Coetiroedd y DU). Mae'r archwilwyr yn cadarnhau bod y coedwigoedd a'r coetiroedd yn cael eu rheoli'n gynaliadwy ac yn ardystio fod hyn yn wir, gan roi sicrwydd i gwsmeriaid a rhanddeiliaid.

Ym Mhen y Cymoedd, nid yw'r tir o dan y tyrbinau gwynt a'r seilwaith cysylltiedig (adeiladau, is-orsafoedd ac ati) yn goetir bellach, ac felly bydd yn cael ei dynnu o'r ardal coetir ardystiedig.

Crynodeb o'r amcanion

  • Gofalu fod gofynion y Cynllun Rheoli Cynefin yn cael eu cynnwys yn nyluniad y Cynllun Adnoddau Coedwig a darparu rhaglen gwympo coed ar gyfer y 10 mlynedd gyntaf pan fydd yn weithredol;
  • Manteisio ar y cyfleoedd posibl ar gyfer rheoli adnodau naturiol y mae’r Cynllun Rheoli Cynefin yn ei gynnig i’r Cynllun Adnoddau Coedwig ehangach er mwyn gwella gwerth yr ardal i fioamrywiaeth drwy adfer a datblygu rhwydwaith o gynefinoedd.
  • Parhau i gynnal cyflenwad cynaliadwy o gynhyrchiad pren trwy'r cynllun a ddefnyddir i gwympo coed a'r dewis o rywogaethau i'w hailgyflenwi.
  • Parhau i reoli ac adfer ardaloedd mawn dwfn i gefnogi storio carbon, rheoleiddio dŵr a bioamrywiaeth.
  • Parhau i gynyddu gwydnwch ein coetiroedd trwy amrywio'r rhywogaethau ailstocio sy'n cael eu plannu i leihau bregusrwydd ein coetir i glefyd. Bydd hyn hefyd o fudd i edrychiad ein coetiroedd o fewn y dirwedd.
  • Cynyddu amrywiaeth adeileddol trwy reoli'r system goedamaeth fach ei heffaith pan fo'n briodol ac ystyried graddfa, maint ac amseru unrhyw fannau wedi’u llwyrdorri i osgoi cwympo unrhyw lennyrch cyfagos cyn i'r coed newydd gyrraedd uchder o 2 fetr. Y tu allan i ardaloedd o adfer mawn, dylid cadw unrhyw gnydau conwydden hynach pan fo'n bosibl er mwyn cadw adeiledd y goedwig a'i photensial cynhyrchiol.
  • Nodi ardaloedd i'w teneuo o fewn y cynllun teneuo pum mlynedd er mwyn galluogi'r system goedamaeth fach ei heffaith i gael ei rheoli ac i PAWS gael ei hadfer.
  • Gwella cysylltedd cynefinoedd trwy gynnal blaenoriaethau hynafol rhannol naturiol ac adfer planhigfeydd ar safleoedd coetir hynafol, yn unol â blaenoriaethu strategol.
  • Hwyluso ehangiad coetiroedd brodorol lle y bu'n rhaid cynaeafu'r prif gnwd o larwydd cyn eu hamser. Mae ailgyflenwi'r ardaloedd hyn yn flaenoriaeth allweddol wrth fynd ymlaen, i sicrhau na chollir unrhyw orchudd coedwig net o ganlyniad. Mae lle i ehangu ac amrywio adrannau llydanddail o'r coetir i helpu i ddarparu cynefinoedd a storio carbon lle'n bosibl.
  • Gwella gwytnwch cynefinoedd agored nad ydynt yn goetir (e.e. rhosydd, glaswelltir)
  • Bydd nodweddion treftadol a diwylliannol yn cael eu nodi er mwyn osgoi difrod.
  • Cynnal a gwella darpariaeth hamdden ac ystyried datblygu cynllun rheoli hamdden a mynediad mewn cysylltiad ag awdurdodau lleol.
  • Defnyddio'r rhwydwaith ffordd a pharth glannau'r afon presennol er budd bioamrywiaeth, trwy greu cysylltiadau â chynefinoedd agored.
  • Gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys y byrddau gwasanaethau cyhoeddus i archwilio cyfleoedd i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol ar ystad goetir Llywodraeth Cymru ac i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd a gwella iechyd a lles cymunedau lleol.

Mapiau

Sylwadau neu adborth

Os oes gennych sylwadau neu adborth, gallwch gysylltu â’r tîm Cynllunio Adnoddau Coedwig ar frp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Diweddarwyd ddiwethaf