Cynllun Adnoddau Coedwig Lampeter & Cilcennin - Cymeradwywyd 21 Mawrth 2023

Lleoliad a safle

  • Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Llanbedr Pont Steffan a Chilcennin yn ymestyn dros 663 hectar, ac yn cynnwys nifer o fân goetiroedd ar gyrion tref Llanbedr Pont Steffan, i'r Gogledd ac i'r Gorllewin, ynghyd ag amryw o flociau mwy helaeth ymhellach i'r Gogledd, sydd wedi'u lleoli ar draws yr ardal o amgylch Cross Inn, Bethania a Chilcennin.
  • Mae coetiroedd Llanbedr Pont Steffan o fewn tirwedd isel amrywiol, yn union y tu allan i gyrion y dref ac maen nhw’n rhan annatod o’r dirwedd amaethyddol gyfoethog a’r coetir cymysg sy’n amgylchynu’r dref.
  • Er eu bod yn gymharol isel, mae’r blociau o goetir amrywiol o amgylch Cilcennin a Cross Inn i’r Gogledd, yn gorwedd o fewn tirwedd eithaf gwastad ac eithriadol o agored, wedi’u hamgylchynu gan ardaloedd nodedig o rostir a chorsydd. Mae’r nodweddion hyn yn rhoi cymeriad llawer mwy ucheldirol i’r coetiroedd nag y byddai eu huchder yn ei awgrymu, ac yn hanesyddol, mae hyn wedi dylanwadu’n sylweddol ar yr opsiynau a ddefnyddiwyd i reoli’r coetiroedd hyn.
  • Mae ardal gyfan y cynllun adnoddau coedwig o fewn Awdurdod Cynllunio Lleol Ceredigion.

Crynodeb o’r amcanion

O fewn y cynllun adnoddau coedwig a chynllunio llennyrch:

  • Cynnal cyflenwad cynaliadwy o bren drwy gynllunio’r gwaith cwympo a dewis ailstocio rhywogaethau a thrwy ddefnyddio systemau coedamaeth sy'n addas ar gyfer y safle.
  • Amrywio rhywogaethau a chyfansoddiad strwythurol y goedwig, gan roi ystyriaeth i gyflwr y safle nawr ac yn y dyfodol, gan gynyddu’r gallu i wrthsefyll plâu, afiechydon a newidiadau yn yr hinsawdd. Bydd y coed llarwydd sydd ar ôl yn cael eu cwympo’n gyflymach i gyfyngu ar y risg a achosir gan Phytophthora ramorum, a bydd coed ynn sydd wedi’u heintio â Hymenoscyphus (Chalara) yn cael eu rheoli er diogelwch wrth iddynt heneiddio. Bydd cynllunio gwaith cwympo yn annog datblygu ymylon cadarn i wrthsefyll gwynt, gan rannu llennyrch yn unedau hydrin sydd wedi’u lleoli’n gyfforddus o fewn y dirwedd. Bydd rhoi rhaglen deneuo reolaidd ar waith mewn coed iau yn gwella sefydlogrwydd, ansawdd a gwerth amwynder, a phan fo amlygiad, amodau gwreiddio a hanes rheoli yn caniatáu hynny, bydd yn hwyluso’r defnydd targed o Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith (LISS). Bydd yr adrannau mwy cynhyrchiol yn gorwedd o fewn rhwydwaith cadarn o goetir brodorol a thorlannol, cronfeydd naturiol, ardaloedd lle ceir y lefel isaf o ymyrraeth a brithwaith o gynefinoedd agored.
  • Cynnal a gwella cynefinoedd â blaenoriaeth a chynorthwyo rhywogaethau a warchodir, gan ganolbwyntio'n benodol ar adfer Plannu ar Safleoedd Coetiroedd Hynafol (PAWS), adfer mawn dwfn â blaenoriaeth a chynefinoedd cysylltiedig, gwella’r cysylltedd rhwng cynefinoedd a rheoli Rhywogaethau Estron Goresgynnol (INNS). Bydd systemau cysylltu'n cael eu cynnal ar hyd parthau glannau afonydd, ffyrdd coedwig, hawliau tramwy cyhoeddus a llwybrau mynediad eraill, drwy reoli ymylon, tir agored a choridorau coetir brodorol yn briodol. Bydd y gwaith a wneir o fudd i rywogaethau allweddol a warchodir gan Ewrop a gofnodwyd yn y cyffiniau, ynghyd â nodweddion hynod safleoedd dynodedig cyffiniol.
  • Rheoli er mwyn diogelu dŵr a phriddoedd, i gynnal ansawdd dŵr a hwyluso gwelliannau mewn cynefinoedd dyfrol a rheoli llifogydd yn naturiol ar draws y gwahanol ddalgylchoedd y mae'r coetiroedd yn draenio iddynt. Bydd potensial clustogi coetiroedd torlannol cyfredol yn cael ei ehangu, gan sefydlu rhwydwaith o goetiroedd olynol a brodorol ar hyd coridorau glannau nentydd, gan ddarparu gwell mesurau lliniaru yn erbyn gwaddodion sydd wedi ymgasglu, a gwella cysylltiadau rhwng cynefinoedd cyfredol.
  • Bod yn sensitif i leoliad hanesyddol y coetiroedd ac wrth gynnal cyfleoedd ar gyfer mynediad i'r cyhoedd a hamdden. Bydd ystyriaeth yn cael ei roi i leoliad tirwedd y nodweddion treftadaeth unigol ynghyd â chymeriad tirwedd ehangach y blociau coetir unigryw, a bydd mynediad cynaliadwy yn cael ei gynnal gan rwydwaith o lwybrau, ffyrdd coedwig a hawliau tramwy cyhoeddus a fydd wedi'u cysylltu'n dda.

Crynodeb o’r prif newidiadau a fydd yn digwydd yn y goedwig

  • Drwy gydol cyfnod y cynllun sydd i ddod, bydd ardal graidd blociau Cilcennin a Cross Inn yn parhau i fod yn goetir cynhyrchiol pwysig, ac yn darparu cyflenwad cynaliadwy o bren i gefnogi cyflogaeth ac economi Cymru.
  • Bydd amrywiaeth strwythurol a rhywogaethau yn cael ei wella'n sylweddol, er mwyn gallu gwrthsefyll plâu, clefydau a newidiadau yn yr hinsawdd yn well.
  • Golyga lledaeniad Phytophthora ramorum y bydd angen cael gwared o’r holl goed llarwydd yn gynt o'r ardal dros y 10 mlynedd nesaf, gyda chyfran sylweddol ohonynt dan rybudd i'w gwaredu o fewn y 3 blynedd nesaf. Bydd hyn yn sbardun allweddol y tu ôl i'r rhaglen gwympo arfaethedig yn ystod cyfnod y cynllun nesaf.
  • Bydd yr ardaloedd 'Plannu ar Safleoedd Coetiroedd Hynafol' (PAWS) sy'n niferus iawn yng Nghoedwigoedd Llanbedr Pont Steffan, ac sydd i’w cael yn Allt Goch, ar gyrion deheuol Cilcennin, yn cael eu troi’n ôl yn goetir llydanddail brodorol. Er mai trawsnewid cyson a graddol (drwy wneud gwaith teneuo mynych) yw’r ffordd sy’n cael ei ffafrio ar gyfer hyn, bydd clirio llarwydd sydd wedi’u heintio â Phytophthora yn gofyn am drawsnewid cyflymach yn goetir llydanddail, a fydd yn seiliedig ar 'gwympo ac ailstocio' mewn rhai o'r adrannau hyn.
  • Bydd ehangu coetir llydanddail olynol yn sylweddol, o amgylch nodweddion torlannol a ger y gwahanol ardaloedd o rostir a glaswelltir corsiog sy'n ffinio ar y coetiroedd, yn rhoi gwell amddiffyniad i nodweddion dynodedig y safleoedd hyn, ac yn gwella cysylltedd cynefinoedd ymhellach.
  • Mae nifer o ardaloedd o fawn dwfn sydd wedi'u coedwigo ar hyn o bryd wedi eu nodi fel rhai y gellir eu hadfer a byddant yn mynd drwy broses o glirio ac ailwlychu (drwy flocio draeniau ac ati), gan ddiogelu cyflwr y nodweddion mawndirol hyn i'r dyfodol a chyfrannu at yr ardal o dir agored a reolir ar y safle.
  • Er y bydd cyfyngiadau ar safleoedd o amgylch blociau Cilcennin (amlygiad, amodau tir a hanes o reoli coed sy'n bodoli eisoes ac ati. ) yn golygu y bydd angen parhau i ddefnyddio rheolaeth drwy lwyrgwympo ar ran helaeth o'r ardal yn ystod y cylchdro cyfredol, bydd dull 'Systemau Coedamaeth Effaith Isel' (LISS) cynyddol yn cael ei ffafrio ble bynnag y bydd amodau'r safle a'r coed yn caniatáu hynny. A chan symud ymlaen, wrth i goed ifanc y dyfodol ddod yn rhan o gylch o waith teneuo rheolaidd, bydd yr ardal lle gellir gwneud hyn yn ymarferol yn cynyddu dros amser. Yn dilyn y rownd gyfredol o glirio llarwydd, bydd holl goedwigoedd Llanbedr Pont Steffan yn cael eu rheoli yn y dyfodol o dan LISS.
  • Bydd cynnal lleoliad tirwedd priodol o amgylch Henebion Cofrestredig, nodi a gwarchod nodweddion treftadaeth eraill a darparu cyfleoedd mynediad iach i'r gymuned yn parhau i fod yn amcanion pwysig.

Mapiau

Amcanion hirdymor

Systemau rheoli coedwigoedd

Dangosol o’r mathau o goedwigoedd

Sylwadau neu adborth

Os oes gennych sylwadau neu adborth yn ymwneud â Chynllunio Adnoddau Coedwigoedd, gallwch gysylltu â’r tîm Cynllunio Adnoddau Coedwigoedd ar frp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Diweddarwyd ddiwethaf