Dirwy i ddyn o Ystrad Mynach am bysgota heb drwydded gwialen ym Mhwll Penallta
Mae dyn o Ystrad Mynach wedi cael gorchymyn i dalu cyfanswm o £435.30 ar ôl cael ei ddal yn pysgota ym Mhyllau Penallta heb drwydded gwialen ddilys.
Cafodd Tyrone Selby, o Nelson Road, Ystrad Mynach, ei weld yn pysgota gan swyddogion gorfodi o Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ym Mhwll Penallta ar 17 Gorffennaf 2024 yn ystod patrôl.
Pan holwyd Mr James gan swyddogion, cadarnhaodd nad oedd ganddo Drwydded Gwialen gyfredol.
Ar 30 Hydref, cafwyd Mr Selby yn euog trwy’r Weithdrefn Ynad Unigol o ddefnyddio offeryn pysgota heb drwydded. Cafodd Mr Selby ddirwy o £220, gorchmynnwyd iddo dalu cost o £127.30 a gordal dioddefwr o £88.
Dywedodd Chris Burge, Swyddog Rheoleiddio Gwastraff CNC:
Rydym yn cymryd unrhyw weithgaredd sy'n bygwth stociau pysgod Cymru o ddifri ac mae hyn yn arbennig o wir am bysgota anghyfreithlon.
Rydym yn annog pysgotwyr i wneud defnydd o'n cefn gwlad hardd yng Nghymru, ond i wneud hynny'n gyfrifol ac i sicrhau bod ganddynt drwyddedau i bysgota, er mwyn osgoi cael eu herlyn.
Cofiwch fod rhaid i chi feddu ar drwydded pysgota â gwialen ar gyfer Cymru a Lloegr os ydych yn pysgota am eogiaid, brithyllod, pysgod dŵr croyw, brwyniaid neu lysywod gyda gwialen a lein. Gallech gael dirwy o hyd at £2,500 a gellid cymryd eich offer pysgota os ydych yn pysgota ac yn methu â dangos trwydded ddilys ar gyfer pysgota â gwialen.
Gall unrhyw un sy’n gweld neu’n amau gweithgaredd pysgota anghyfreithlon ei riportio i linell gymorth digwyddiadau 24 awr CNC ar 0300 065 3000 neu ar wefan CNC: Cyfoeth Naturiol Cymru / Rhoi gwybod am ddigwyddiad
Gellir prynu trwyddedau gwialen ar-lein yn:
https://cyfoethnaturiol.cymru/permits-and-permissions/buy-a-fishing-rod-licence/?lang=cy