Canolfan Ymwelwyr Ynyslas yn ennill Gwobr y Faner Werdd
Mae Canolfan Ymwelwyr Ynyslas - ger Aberystwyth yn y Canolbarth - wedi ennill Gwobr y Faner Werdd.
Mae'r wobr - a chydlynir yng Nghymru gan Cadwch Gymru'n Daclus - yn arwydd bod gan barc neu fannau gwyrdd y safonau amgylcheddol uchaf posibl, ei fod yn cael ei gynnal a'i gadw'n hardd ac bod ganddo gyfleusterau ardderchog i ymwelwyr.
Dysgwch am Ganolfan Ymwelwyr Ynyslas a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi.
Wrth dderbyn y wobr, mae Canolfan Ymwelwyr Ynyslas yn dilyn canolfan ymwelwyr gerllaw ym Mwlch Nant yr Arian a enillodd Wobr y Faner Werdd yn 2021
Dywedodd Gavin Bown, Pennaeth Gweithrediadau CNC yng Nghanolbarth Cymru:
"Rydym yn falch iawn bod Canolfan Ymwelwyr Ynyslas wedi ennill Gwobr y Faner Werdd. Dim ond i gyrchfannau ymwelwyr sy'n cyrraedd yr uchaf o safonau y dyfernir Baneri Gwyrdd, ac rydym yn falch iawn o fod wedi eu bodloni.
"Yn boblogaidd gyda phobl leol ac ymwelwyr, mae Ynyslas yn fan arbennig ble rydym yn parhau i geisio taro'r cydbwysedd cywir o amddiffyn gwarchodfa natur genedlaethol gyda galluogi mynediad i safle o bwys rhyngwladol."
"Dim ond drwy waith caled ac ymroddiad ein staff y gwnaed y wobr hon yn bosibl. Maen nhw'n sicrhau bod ymwelwyr yn cael amser gwych ac eisiau dod yn ôl."
Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd yn Cadwch Gymru'n Daclus:
"Mae'r blynyddoedd diwethaf wir wedi dangos i ni pa mor bwysig yw parciau a mannau gwyrdd o safon uchel i'n cymunedau. Gyda mwy o ymwelwyr nag erioed wedi mwynhau ein mannau gwyrdd, hoffwn longyfarch gwaith caled y staff sydd wedi cynnal safonau ardderchog yn Ynyslas a Bwlch Nant yr Arian."
Mae Ynyslas yn rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Dyfi, rhwng Aberystwyth a Machynlleth. Mae'r warchodfa 2,000 hectar hefyd yn cynnwys Aber Afon Dyfi a Chors Fochno.
Lleolir twyni tywod gwych Ynyslas ar ochr ddeheuol ceg yr aber, a rhain yw’r twyni mwyaf yng Ngheredigion. Maent yn dangos holl gyfnodau ffurfiant a thyfiant y twyni, ac maent yn gartref i boblogaeth gyforiog o degeirianau, mwsogl, llys yr afu, ffwng, pryfed a phryfed cop; llawer ohonynt yn rhywogaethau prin, gyda rhai ohonynt ar gael yn unlle arall ym Mhrydain.