Gwaith i wella ansawdd dŵr morlynnoedd ACA Bae Cemlyn
Mae prosiect partneriaeth yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) forol Bae Cemlyn sydd wedi’i diogelu’n sylweddol ar Ynys Môn yn bwriadu gwella ansawdd dŵr mewn dau forlyn arfordirol sy’n bwysig i fywyd gwyllt a phlanhigion prin.
Mae prosiect partneriaeth yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) forol Bae Cemlyn sydd wedi’i diogelu’n sylweddol ar Ynys Môn yn bwriadu gwella ansawdd dŵr mewn dau forlyn arfordirol sy’n bwysig i fywyd gwyllt a phlanhigion prin.
Yn dilyn gwaith monitro diweddar darganfu swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) lefelau uchel o faetholion a phresenoldeb algâu gwyrdd yn y morlynnoedd.
Roedd y swyddogion yn pryderu fod tail da byw sy'n pori yn yr ardal gyfagos yn llifo oddi ar y tir ac yn golchi i mewn i'r morlynnoedd.
Er mwyn mynd i’r afael â’r broblem, mae mwy na milltir a hanner (2667m) o ffensys wedi’u gosod ar dir fferm ar y safle i atal gwartheg a defaid rhag mynd i mewn i’r morlynnoedd a’r nentydd a’r ffosydd sy’n eu bwydo.
Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru sydd berchen ar y tir wedi bod yn gweithio gyda CNC a ffermwyr tenant i blannu coed a gwrychoedd newydd er mwyn lleihau faint o ddŵr a maetholion sy’n draenio oddi arno. Bydd y rhain hefyd yn creu coridorau cynefinoedd a bywyd gwyllt newydd i wella bioamrywiaeth.
Mae staff Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, sy’n rheoli’r warchodfa natur ar ran Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, hefyd yn obeithiol y bydd y prosiect yn cael effaith gadarnhaol ar adar sy’n nythu ar y ddaear drwy wella’r fioamrywiaeth o’u cwmpas.
Meddai Andrea Winterton, Rheolwr Gwasanaethau Morol Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae gwella ansawdd dŵr ein harfordiroedd, ein hafonydd, ein llynnoedd a’n morlynnoedd yn un o’n blaenoriaethau pennaf, ac mae’n hynod o bwysig ar gyfer ein safleoedd cadwraeth mwyaf gwarchodedig.
“Mae’r safleoedd hyn, fel ACA Bae Cemlyn, yn cynnal rhywogaethau prin ac eiconig ac mae’n rhaid i ni gymryd camau brys i’w hamddiffyn ac i wrthdroi’r dirywiad dinistriol mewn bioamrywiaeth.
“Mae’r prosiect yn enghraifft ragorol o sut y gall gweithio mewn partneriaeth arwain at ganlyniadau cadarnhaol a chwrdd ag anghenion natur a phobl y mae eu bywoliaeth yn dibynnu ar y tir.”
Yn ogystal â bod yn Ardal Cadwraeth Arbennig forol, mae’r ardal hefyd yn Warchodfa Natur, yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac yn Ardal Gwarchodaeth Arbennig oherwydd yr adar, y planhigion, a’r rhywogaethau dyfrol prin y mae’n eu cynnal.
Mae’r rhain yn cynnwys ysgedd arfor, gludlys arfor, y pabi corniog melyn, rhedyn môr troellog, ac adar fel y fôr-wennol bigddu, y fôr-wennol gyffredin a môr-wennol y Gogledd.
Meddai Guto Roberts, Prif Geidwad Ynys Môn a Llŷn, Ymddiriedolaeth Natur Cymru:
“Mae’r prosiect hwn wedi caniatáu inni weithio gyda ffermwyr tenant i wella ansawdd dŵr y morlyn fel ein bod yn gallu cynyddu bioamrywiaeth yr ardal hon a thrwy hynny greu gwell cynefin i adar môr yn ogystal â rhywogaethau pwysig eraill ym Mae Cemlyn.
"Rydym yn gweithio’n agos ag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru i fonitro’r safle ac i barhau i gydweithio i gynnal y cynefinoedd gwerthfawr hyn.”
Mae’r prosiect wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Raglen Gyfalaf Argyfyngau Natur a Hinsawdd. Mae’r rhaglen yn cefnogi nifer o flaenoriaethau amgylcheddol gan gynnwys bioamrywiaeth a safleoedd gwarchodedig, adfer mawndiroedd, adfer mwyngloddiau metel, pysgodfeydd, ansawdd dŵr a choedwigoedd cenedlaethol.
Y flwyddyn ariannol hon, mae CNC wedi ymrwymo i wario £25m drwy Raglen Gyfalaf Argyfyngau Natur a Hinsawdd Llywodraeth Cymru, gan gynnwys £15m ar gyfer gwelliannau yn yr amgylchedd dŵr (gan gynnwys ansawdd dŵr) drwy ei Raglen Cyfalaf Dŵr.