Cyfarfod Tîm Rheoli Digwyddiad Amlasiantaeth
Rhannodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) y canfyddiadau mwyaf diweddar yn sgil ymweliad â safle tirlenwi Withyhedge yn Sir Benfro mewn cyfarfod â Thîm Rheoli Digwyddiad Aml-asiantaeth ddydd Mercher, 10 Ebrill. Roedd y cyfarfod yn cynnwys cynrychiolwyr o Gyngor Sir Penfro (CSP), Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Mae pob awdurdod yn cydnabod yr effaith y mae'r arogleuon hyn yn ei chael ers peth amser ar aelodau'r cymunedau o amgylch Safle Tirlenwi Withyhedge ac yn cydymdeimlo â’r cymunedau hynny.
Mae hon yn sefyllfa gymhleth sy'n newid yn barhaus, ac mae partneriaid yn gweithio'n galed iawn i gyrraedd pwynt lle gellir datrys y problemau o ran arogleuon.
Aeth swyddogion CNC i’r safle ddydd Llun 8 Ebrill. Yn dilyn asesiad gweledol o’r gwaith a wnaed ar y safle, mae’n ymddangos fod y gwaith gofynnol o gapio celloedd gwastraff a gosod ffynnon nwy wedi’i gwblhau gan weithredwyr y safle, RML, yn unol â’r dyddiad cau ar gyfer Hysbysiad Gorfodi A36, a gyhoeddwyd gan CNC ar 13 Chwefror 2024.
Fodd bynnag, dim ond ar ôl i adroddiadau dilysu ar gyfer adeiladu ac arolygu gael eu cyflwyno y gall CNC asesu hyn yn llawn. Mae'r gweithredwr bellach yn paratoi'r rhain ac ar ôl eu derbyn, bydd asesiad ffurfiol yn cael ei gynnal.
Bydd yr awdurdodau'n adolygu'r canfyddiadau ac yn diwygio eu cynlluniau gweithredu lle bo'n briodol.
Monitro Arogleuon
Ers i ddyddiad cau Hysbysiad Gorfodi A36, sef dydd Gwener 5 Ebrill, fynd heibio, ac mewn ymateb i nifer uchel parhaus o adroddiadau am arogleuon gan y gymuned leol, cynyddodd CNC a CSP waith monitro arogleuon mewn ardaloedd preswyl dros y penwythnos ac i mewn i’r wythnos hon.
Mae ardaloedd posibl eraill ar y safle y gallai arogleuon fod yn dod ohonynt wedi'u nodi ac mae'r datganiad gan y cwmni a gyhoeddwyd ar 9 Ebrill yn rhoi rhagor o fanylion.
Cyflwynodd RML gynlluniau i fynd i’r afael â’r rhain ar 10 Ebrill, sydd bellach yn cael eu hystyried gan CNC.
Monitro Ansawdd Aer
Mae RML hefyd wedi comisiynu parti annibynnol i fonitro ansawdd aer, ac mae'r gwaith hwn yn parhau. Mae CSP a CNC yn darparu cyngor technegol i gefnogi’r gwaith hwn.
Yn y rownd gyntaf o ganlyniadau monitro â thiwbiau tryledu, canfuwyd Hydrogen Sylffid (H2S) yn un o'r 10 safle monitro. Nwy di-liw yw hydrogen sylffid sy'n arogli'n aml fel wyau pwdr a gall ymddangos wrth i ddeunyddiau gwastraff ddadelfennu mewn safleoedd tirlenwi.
Mae angen mwy o ddata ar gyfer dadansoddiad ystyrlon ac mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n parhau i alw am fwy o waith monitro aer cyn gynted â phosibl. Mae CSP ac CNC wrthi’n mynd i’r afael â hyn.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn atgoffa pobl y mae’r arogl yn effeithio arnynt i barhau i gadw drysau a ffenestri ar gau pan fo’r arogleuon yn bresennol a cheisio cyngor meddygol os oes angen.
Rhoi gwybod am arogleuon
Mae CNC yn gofyn i chi barhau i roi gwybod am achosion o arogleuon o'r safle tirlenwi trwy ddefnyddio'r ffurflen bwrpasol hon: https://bit.ly/rhoigwybodamaroglwithyhedge.
Rhowch wybod am arogleuon ar yr adeg y byddwch yn eu profi, yn hytrach nag yn hanesyddol. Bydd rhoi gwybod am arogleuon mewn modd amserol yn helpu i arwain gwaith partneriaid yn fwy effeithiol, yn enwedig wrth ddatblygu gwaith monitro ansawdd aer ymhellach.