Diweddariad Ymchwiliad Safle Tirlenwi Withyhedge 16.1.24.
Hoffai Cyfoeth Naturiol Cymru ddiolch i'r rhai sy'n parhau i adrodd am ddigwyddiadau arogleuon o safle tirlenwi Withyhedge, Sir Benfro.
Hoffem eich sicrhau ein bod yn cymryd pob adroddiad o ddifrif ac yn canolbwyntio ein holl ymdrechion ar fynd i'r afael â'r materion a godwyd. Oherwydd y nifer o adroddiadau rydym yn eu derbyn, ni allwn ddarparu adborth unigol ar hyn o bryd.
Rydym yn derbyn rhai adroddiadau o'r tu hwnt i'r cymunedau cyfagos, ac rydym yn ceisio eu gwirio i gadarnhau maint yr effaith.
Yn ogystal, mae llawer o alwadau bellach yn manylu ar bryderon iechyd. Er ein bod yn cymryd adroddiadau o'r fath o ddifrif, nid Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r awdurdod cymwys i asesu'r effaith ar iechyd pobl.
Os ydych chi'n poeni am effeithiau ar eich iechyd, dylech chi:
- Ofyn am gyngor gan weithiwr meddygol proffesiynol e.e. meddyg teulu; neu
- Gysylltu â Galw Iechyd Cymru ar 111 neu ar https://111.wales.nhs.uk/
Yn unol â'n gweithdrefnau digwyddiadau, rydym wedi hysbysu Iechyd Cyhoeddus Cymru o'r adroddiadau hyn.
Rydym yn parhau i dybio mai’r ffynhonnell fwyaf tebygol o allyriadau ac arogl nwy tirlenwi yw’r gell sydd heb ei chapio sy'n cynnwys gwastraff a dipiwyd yn flaenorol.
Mae ffyrdd o gyflymu'r gwaith gosod cap a rheoli nwy yn cael eu harchwilio. Mae'n hanfodol bod CNC yn cynnal y gwiriadau angenrheidiol i sicrhau nad yw penderfyniadau a wneir i ddatrys materion yn fwy prydlon nawr, yn creu risgiau eraill yn y dyfodol. Rydym yn aros am wybodaeth ychwanegol gan y gweithredwr i'n galluogi i wneud yr asesiadau hyn.
Byddwn yn cysylltu ag arweinwyr cymunedol yr wythnos hon i gadarnhau dyddiad ar gyfer cyfarfod rhithiol. Bydd y cyfarfod yn rhoi cyfle i CNC roi'r wybodaeth ddiweddaraf fanylach am y gwaith sy'n cael ei wneud i ymchwilio a datrys y materion arogl a llygredd. Bydd hyn yn cynnwys sesiwn cwestiwn ac ateb.
Cadwch lygad ar ein gwefan am ddiweddariadau ac adrodd am arogl drwy ddefnyddio y ffurflen ar-lein hon Adroddiad arogl o safle tirlenwi Withyhedge, neu'n rhif 24 awr - 0300 065 3000. Sicrhewch fod yr adroddiad yn cynnwys disgrifiad o'r arogl, yr amser y sylwir arno a'r hyd y mae'n cael ei brofi.