Cymru’n wynebu ymchwydd yn llanw’r hinsawdd
CNC yn annog pobl i wirio eu perygl llifogydd y gaeaf hwn
Mae blwyddyn o sychder, stormydd eithafol, a thanau gwyllt wedi atgyfnerthu’r ffaith fod Cymru'n wynebu ymchwydd yn llanw newid hinsawdd. Dyma rybudd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wrth i'r corff amgylcheddol annog pobl i fod yn wyliadwrus ac nid yn ddifater am lefel eu perygl llifogydd y gaeaf hwn.
Ers dechrau’r flwyddyn mae'r byd wedi gweld cyfres o lifogydd, tonnau gwres a thanau gwyllt digynsail ar draws pedwar cyfandir. Yma yng Nghymru, rydym wedi profi effeithiau tywydd eithafol ar naill ben y sbectrwm a’r llall.
Ym mis Chwefror, teimlodd y wlad nerth dinistriol y glaw trwm a’r gwyntoedd cryfion a achoswyd gan dair storm a chanddynt enw a darodd y DU o fewn wythnos. Yn fuan wedi hynny, profodd y wlad gyfnod estynedig o dywydd sych a thymheredd uchel dros y gwanwyn a'r haf, gan arwain at danau gwyllt ledled y wlad a datgan y statws sychder 'swyddogol' cyntaf yng Nghymru ers 2005-2006.
Yn sgil glaw diweddar, mae llif rhai afonydd ledled Cymru wedi dychwelyd i’r lefel arferol ar gyfer yr adeg o'r flwyddyn. Fodd bynnag, bydd yn cymryd cryn dipyn o law dros gyfnod estynedig er mwyn ail-lenwi ein cronfeydd dŵr. Er bod Cymru mewn cyfnod o sychder, gallai cyfnod o law trwm olygu y bydd afonydd yn ymateb yn gyflym wrth i ni fynd i mewn i gyfnod yr hydref a'r gaeaf sy’n wlypach fel arfer.
Gydag 1 ymhob 8 (tua 245,000) eiddo yng Nghymru mewn perygl o lifogydd, a chydag argyfwng yr hinsawdd yn dod â thywydd mwy eithafol, mae'n bwysicach nag erioed bod pobl yn deall eu perygl o lifogydd a sut i baratoi a delio â llifogydd.
Dywedodd Jeremy Parr, Pennaeth Rheoli Perygl Llifogydd a Digwyddiadau gyda Cyfoeth Naturiol Cymru:
"Tywydd eithafol a'i effeithiau yw arwyddion amlycaf argyfwng yr hinsawdd. Mae'r amrywiadau mewn amodau tywydd rydyn ni wedi'u gweld eleni yn dangos yr her sy'n ein hwynebu ac wedi’n gorfodi i roi sylw i bwysigrwydd gwytnwch.
"Ar hyn o bryd, mae ein timau'n gweithio gyda'r Swyddfa Dywydd a'n partneriaid i baratoi ar gyfer yr hyn y gallai ddigwydd yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Ond fyddwn ni byth yn gallu atal pob achos o lifogydd. Er bod Cymru'n parhau i fod mewn statws sychder, rydyn ni'n annog pobl i fod yn wyliadwrus ac nid yn ddifater am eu perygl o lifogydd yn y dyfodol. Hyd yn oed os na fu llifogydd yn agos atoch chi o’r blaen, dydy hynny ddim yn golygu na fydd llifogydd yn y dyfodol.
"Gall effeithiau llifogydd fod yn ddinistriol, a gallant ddigwydd mor gyflym. Er ein bod yn buddsoddi'n helaeth mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd, nid yw'n bosib atal pob achos o lifogydd, bob amser, ym mhob man. Dyna pam mae mor bwysig i ni i gyd ddeall ein perygl o lifogydd a'r camau y gallwn oll eu cymryd i helpu i leihau'r effeithiau ar ein hunain, ein teuluoedd a'n heiddo y gaeaf hwn. Mae bod yn ymwybodol y gallai ddigwydd i chi, a gwybod beth i'w wneud yn yr amgylchiadau gwaethaf, yn hanfodol."
Mae camau syml y gall pobl eu cymryd:
- Edrychwch i weld a ydych mewn perygl o lifogydd - Rhowch eich cod post ar wefan CNC i gael gwybod a yw eich ardal chi mewn perygl o lifogydd o afonydd, y môr, dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach.
Gallwch hefyd ddefnyddio ein gwasanaeth Gweld eich Risg Llifogydd yma. - Cofrestrwch i gael rhybuddion llifogydd am ddim - Mewn llawer o ardaloedd sydd â pherygl o lifogydd, gall pobl ymuno â gwasanaeth rhybuddion llifogydd am ddim CNC i dderbyn neges awtomatig pan fo hysbysiad llifogydd, rhybudd llifogydd neu rybudd llifogydd difrifol wedi ei gyhoeddi ar gyfer llifogydd afonol neu arfordirol yn eu hardal.
- Paratowch ar gyfer llifogydd – mae gan wefan CNC gyngor, adnoddau a dolenni at wybodaeth ddefnyddiol am sut i baratoi ar gyfer llifogydd, er enghraifft drwy baratoi pecyn llifogydd. Mae ganddi hefyd dempledi y gellir eu lawrlwytho a all helpu pobl i baratoi ar gyfer llifogydd, cymryd camau i leihau effaith llifogydd, yn ogystal â chamau y bydd angen i bobl eu cymryd yn ystod llifogydd.
- Paratowch becyn llifogydd a fydd yn cynnwys eitemau pwysig fel meddyginiaeth, cyflenwadau i anifeiliaid anwes neu fabanod, gwefrwyr, tortsh a dillad cynnes, gwrth-ddŵr.
- Dysgwch pwy sy'n gallu helpu - mae sefydliadau gwahanol yn gyfrifol am wahanol ffynonellau o lifogydd. Gall pobl weld pwy sy'n delio â beth ar ein tudalen cyfrifoldebau yma.
- Gallwch hefyd gael cymorth a chyngor trwy ffonio Floodline 24/7 ar 0345 988 1188
Fis nesaf, bydd Cynhadledd Newid Hinsawdd COP27 y Cenhedloedd Unedig yn cael ei chynnal yn Sharm El Sheik yn yr Aifft, lle bydd arweinwyr rhyngwladol yn dod at ei gilydd unwaith eto i nodi sut y dylen nhw wynebu her yr hinsawdd.
Wrth edrych ymlaen at y digwyddiad arwyddocaol, dywedodd Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru:
"Mae COP 26 a ddigwyddodd yn Glasgow y llynedd, a'r rhybuddion dybryd gan wyddonwyr hinsawdd ledled y byd yn sgil hynny, yn sicr wedi newid sut mae chwaraewyr allweddol yn meddwl am yr hinsawdd a'i heffeithiau gartref a thramor. Rydym ni am i COP27 roi ysgogiad pellach i lywodraethau fynd i'r afael â'r mater difrifol hwn.
"Da gen i yw gweld y sylw canolog a roddir i newid hinsawdd yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru a rheoli perygl llifogydd Cymru’n effeithiol yn y dyfodol.
"Ond er bod cynnydd yn sicr wedi digwydd, mae problem yr hinsawdd hefyd wedi dwysáu. A dyna pam mae angen ehangu ein syniadau a'n camau gweithredu i helpu i liniaru ac addasu i'w heffeithiau os ydym am sicrhau’r canlyniadau gwell o ran perygl llifogydd sy’n hanfodol ar gyfer pobl Cymru."