Mae eogiaid a brithyllod bregus yn parhau i brinhau, er gwaethaf ymdrechion cadwraeth gan bysgotwyr a rhwydi
Mae'r asesiadau diweddaraf o stociau eogiaid wedi'u cyhoeddi ac mae’r darlun yn un llwm ar gyfer afonydd Cymru lle ceir eogiaid.
Heddiw (7 Hydref 2024) mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyhoeddi asesiadau diweddaraf 2023 o stociau eogiaid, sy'n dangos dirywiad parhaus yn y 23 o brif afonydd Cymru sy’n cynnal eogiaid.
Yn ôl cofnodion 2023 (y ffigurau diweddaraf sydd ar gael) yng Nghymru, daliwyd y nifer isaf o eogiaid (252 â rhwydi, 848 â gwialen) a brithyllod môr (610 â rhwydi, 5,669 â gwialen) ers i gofnodion cyson ddechrau yn y 1970au.
Mae hyn yn ostyngiad o 4% ers y flwyddyn flaenorol, ond yn waeth na hynny, mae’n dangos gostyngiad o tua 70% dros y deng mlynedd diwethaf. Mae pob un o'r 23 o brif afonydd Cymru ar gyfer eogiaid bellach wedi'u categoreiddio fel rhai sydd "mewn perygl".
Dywedodd Ben Wilson, prif gynghorydd pysgodfeydd CNC:
"Mae eogiaid, a'u cefndryd agos brithyllod y môr (siwin) yn rhywogaethau eiconig a gwerthfawr iawn yng Nghymru. Mae eu hangen am gynefinoedd dŵr croyw a morol oer, glân ac iach yn eu gwneud yn ddangosyddion allweddol o ansawdd amgylcheddol ein dyfroedd, yn ogystal â thynnu sylw at yr effaith y mae newid yn yr hinsawdd yn ei chael ar yr amgylchedd dyfrol.
"Yn anffodus, mae niferoedd eogiaid a brithyllod y môr yn gostwng yn sgil sawl math o bwysau; yn ôl cofnodion 2023 yng Nghymru, daliwyd y nifer isaf o eogiaid (252 â rhwydi, 848 â gwialen) a brithyllod môr (610 â rhwydi, 5,669 â gwialen) ers i gofnodion cyson ddechrau yn y 1970au.
“Y llynedd, ailddosbarthwyd Eogiaid yr Iwerydd gan yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur o 'Dan Ddim Bygythiad' i 'Mewn Perygl' ym Mhrydain Fawr o ganlyniad i ostyngiad o 30-50% ym mhoblogaethau Prydain ers 2006."
Mae'r dirywiad wedi parhau er gwaethaf ymdrechion ar y cyd i ddiogelu cynefinoedd ac ymdrechion cadwraeth gan bysgotwyr gwialen a rhwyd. Mae is-ddeddfau cadwraeth a basiwyd yn 2020 yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw eog a gaiff ei ddal â rhwyd neu wialen gael ei ddychwelyd heb niwed.
O ganlyniad, amcangyfrifir bod eogiaid sy'n dychwelyd i'n hafonydd wedi cyfrannu 8 miliwn o wyau dros bedair blynedd ac mae pysgod sydd wedi’u dychwelyd wedi cyfrannu tua 6% o gyfanswm yr wyau a ddodwyd yng Nghymru yn 2023, gan ddarparu cymorth amhrisiadwy wrth atal dirywiad poblogaethau gwyllt.
Mae stociau brithyllod môr, yr ystyriwyd o’r blaen eu bod yn fwy cadarn, hefyd yn dirywio i raddau sy’n peri pryder.
Mae gan Gymru 33 o brif afonydd ar gyfer brithyllod môr; nodwyd bod 30 (91%) ohonynt "Mewn Perygl" tra mai dim ond tair (9%) o'r rhain sy'n cael eu hystyried yn "Debygol o fod mewn Perygl". Nid oes unrhyw afon yng Nghymru sydd “Ddim Mewn Perygl”.
Mae holl stociau Cymru bellach mewn trafferthion difrifol ac mewn perygl o fethu â chynnal poblogaethau cynaliadwy yn y dyfodol.
Ychwanegodd Ben:
"Mae'r ffigurau diweddaraf hyn yn peri pryder mawr ac yn arwydd bod llawer o stociau bellach mewn trafferthion difrifol ac mewn perygl o fethu â chynnal poblogaethau cynaliadwy yn y dyfodol.
"O'r holl bwysau sy'n wynebu eogiaid a brithyllod môr, mae'n ymddangos bod effeithiau newid yn yr hinsawdd mewn dŵr croyw ac ar y môr yn cael effaith ddinistriol ar stociau, wrth i'n moroedd a'n hafonydd gynhesu.
"Er bod hyn yn arwydd clir bod angen i gymdeithas gynyddu ei hymdrechion i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, ein dewis gorau ar gyfer eogiaid a brithyllod môr yw mynd i'r afael â'r nifer o ffactorau eraill y gallwn eu rheoli.
"Mae'n rhaid i ni roi dŵr glân ac oer iddyn nhw yn ein hafonydd a pharhau i fynd i'r afael â materion fel ansawdd dŵr, argaeau a rhwystrau, ecsbloetio, a rhywogaethau estron goresgynnol.
"Mae'r dirywiad hwn i’w weld yn y rhan fwyaf o wledydd eraill ar draws dosbarthiad eogiaid Gogledd yr Iwerydd ac yn eu hardal Ewropeaidd, lle mae poblogaethau wedi lleihau dros y degawdau diwethaf."
Mae canlyniadau llawn yr asesiad o stociau wedi'u cyhoeddi yn adroddiad asesu stociau eogiaid blynyddol Cymru a Lloegr sydd wedi'i gyd-ysgrifennu â Cefas ac Asiantaeth yr Amgylchedd sydd i’w weld yma: Salmon Stocks and Fisheries in England and Wales 2023 (publishing.service.gov.uk)