Ymwelwch â'r awyr agored yn gyfrifol gyda'r Cod Cefn Gwlad
Wrth i wyliau haf yr ysgolion gychwyn, gofynnir i ymwelwyr â lleoedd naturiol Cymru ddilyn y Cod Cefn Gwlad i ddiogelu'r amgylchedd, parchu pobl eraill a mwynhau'r awyr agored yn ddiogel.
Gyda mwy o bobl yn ymwybodol o’r manteision iechyd a lles a ddaw o dreulio amser ym myd natur, mae parciau cenedlaethol, coedwigoedd a gwarchodfeydd natur Cymru wedi gweld cynnydd yn nifer yr ymwelwyr dros y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn wedi arwain at gynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol a difrod amgylcheddol fel sbwriel, tanau a gwersylla anghyfreithlon mewn llawer o'r lleoedd arbennig hyn.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn bryderus am yr effeithiau ar fywyd gwyllt, cymunedau, a'r gwasanaethau brys, felly mae’n annog pobl i ddilyn y Cod Cefn Gwlad ym mhob man awyr agored a gwneud eu rhan i leihau'r pwysau ar dirweddau.
Dywedodd Alison Roberts, Cynghorydd Hamdden Cyfrifol yn CNC:
"Mae lleoedd naturiol Cymru yn gyrchfannau delfrydol i bobl ymlacio ac adfywio.
"Ond mae'n rhaid i ni gadw cydbwysedd rhwng dymuniadau unigolion i fwynhau'r awyr agored a'r cyfrifoldebau sydd gan bob un ohonom i ofalu am natur, parchu cymunedau lleol ac ystyried ein diogelwch ein hunain.
"Rydyn ni'n diolch i'r mwyafrif helaeth o bobl sy'n ymweld â'r awyr agored am ymddwyn yn gyfrifol ac rydyn ni'n gobeithio y bydd hynny'n parhau wrth i ran brysuraf y flwyddyn gyrraedd."
Mae'r Cod Cefn Gwlad yn cynnig y canllawiau canlynol i ymwelwyr â chefn gwlad, yr arfordir, parciau a dyfrffyrdd:
Parchwch bawb
- byddwch yn ystyriol o'r rhai sy'n byw yng nghefn gwlad, yn gweithio ynddo ac yn ei fwynhau
- gadewch giatiau ac eiddo fel yr oeddent
- peidiwch â rhwystro mynediad i giatiau neu dramwyfeydd wrth barcio
- byddwch yn gyfeillgar, dywedwch helo, rhannwch y gofod
- dilynwch arwyddion lleol a chadwch at lwybrau wedi'u marcio oni bai bod mynediad ehangach ar gael
Diogelwch yr amgylchedd
- ewch â'ch sbwriel adref – peidiwch â gadael unrhyw ôl o'ch ymweliad
- peidiwch â chynnau tân - barbeciws yn unig os bydd arwyddion yn caniatáu hynny
- cadwch gŵn dan reolaeth ac yn y golwg bob amser
- baw cŵn – bagiwch a biniwch mewn unrhyw fin gwastraff cyhoeddus neu ewch ag ef adref
- gofalwch am natur – peidiwch ag achosi difrod nac aflonyddwch
Mwynhewch yr awyr agored
- cadarnhewch eich llwybr a'r amodau lleol
- cynlluniwch eich antur – dylech wybod beth i'w ddisgwyl a beth allwch chi ei wneud
- mwynhewch eich ymweliad, gan gael hwyl a chreu atgofion
Gallwch weld y Cod Cefn Gwlad llawn ar wefan CNC: www.cyfoethnaturiol.cymru/cod-cefn-gwlad
I gynllunio ymweliad â choetiroedd a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol CNC, ewch i'w wefan Ar Grwydr: www.cyfoethnaturiol.cymru/ar-grwydr