Ceisio barn am sut mae coedwigoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cael eu rheoli
Gwahoddir pobl sy'n mwynhau defnyddio'r coetiroedd ar draws Pen-y-bont ar Ogwr i roi eu barn ar sut mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn bwriadu eu rheoli yn y dyfodol.
Mae CNC – sy'n rheoli Ystâd Goed Llywodraeth Cymru ledled Cymru – wedi datblygu cynllun rheoli 25 mlynedd ar gyfer y saith coetir yn y sir.
Y saith coetir yw:
- Garw – yn ymestyn o Gaerau i lawr i Langeinnor.
- Nant-y-Moel – o amgylch pentref Nant-y-Moel.
- Dimbaeth – i'r dwyrain o Gwmogwr.
- Mynydd Maendy – i'r gorllewin o Gilfach Goch.
- Cefnmachen – i'r gogledd-ddwyrain o Frynmenyn.
- Pensylvania Abercynffig – i'r gorllewin o Abercynffig.
- Pensylvania Pen-y-fai – i'r gogledd-ddwyrain o Ben-y-fai.
Mae'r cynllun yn nodi amcanion a chynigion hirdymor ar gyfer rheoli'r coetiroedd a'r coed ynddynt yn y dyfodol. Mae hefyd yn cynnwys strategaethau ar sut y bydd CNC yn parhau i fynd i'r afael â'r coed llarwydd heintiedig yn yr ardal.
Gall pobl ddarllen y cynlluniau'n fanwl a gadael adborth drwy ymgynghoriad ar-lein CNC.
Meddai Chris Rees, Rheolwr Gweithrediadau Coedwigoedd ar gyfer CNC:
"Mae ein coedwigoedd yn cynnig cymaint o fanteision i'n ambylchedd naturiol ac i'n cymunedau. Maent yn helpu ni yn y frwydr yn erbyn yr argyfyngau hinsawdd a natur, yn darparu pren o ansawdd da i ni ei ddefnyddio, a lleoedd gwych i ni i gyd dreulio amser ac i fwynhau.
"Rydym yn gwybod pa mor werthfawr yw ein coetiroedd, ac rydym am sicrhau bod y bobl sy'n eu defnyddio yn cael cyfle i ddweud eu dweud am sut y dylent cael eu rheoli yn y dyfodol.”
Mae'r ymgynghoriad ar agor tan 25 Ebrill 2022.
Gall unrhyw un sy'n dymuno cymryd rhan ond na all weld y cynigion ar-lein ffonio 03000 65 3000 neu ebostio frp@cyfoethnaturiol.cymru i ofyn am gopi caled.
Gall preswylwyr sy'n dymuno anfon adborth drwy'r post ei anfon at:
Cynllun Adnoddau Coedwig Garw a Chwm Ogwr
Cyfoeth Naturiol Cymru
29 Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 0TP