Defnyddio atebion sy'n seiliedig ar natur i gefnogi gwelliannau ansawdd dŵr yn Sir Benfro

Mae prosiect Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar afon Cleddau Wen yn Sir Benfro yn harneisio pŵer coed i leihau llygredd maetholion a gwella ansawdd dŵr.

Plannwyd tua 6,500 o goed ar hyd glannau'r afon ger ei chydlifiad ag Afon Cleddau Ddu, i amsugno gormodedd o faetholion sy’n deillio o ddŵr ffo tir amaethyddol.

Mae coridorau coed, sy'n 14m o led ar gyfartaledd, yn gweithredu fel lleiniau clustogi rhwng tir fferm a'r afon ac wedi eu plannu ar dir nad yw'n gynhyrchiol. Cawsant eu cyflwyno gyda chefnogaeth lawn y tirfeddiannwr, a oedd yn awyddus i gyflwyno newid amgylcheddol cadarnhaol.

Yn ogystal â bod o fantais i'r afon sy’n Ardal Cadwraeth Arbennig, bydd y coed newydd yn darparu cysylltiad â choetir naturiol presennol ar y tir, gan fod o fudd i amrywiaeth o rywogaethau o blanhigion a bywyd gwyllt.

Plannwyd y coed gan y contractwyr Coed Porffor/Purple Trees a threuliodd pump o blanwyr bum niwrnod llawn yn cwblhau’r gwaith.

Ar wahân i hyn, mae'r prosiect hefyd wedi gweld mwy na 1000m o ffensys newydd yn cael eu gosod i atal da byw rhag mynd at yr afon.

Meddai Andrew Lewis, o dîm Prosiectau Morol CNC:
"Mae aber Cleddau Wen ac Aberdaugleddau yn lleoedd arbennig tu hwnt, wedi'u dynodi ar gyfer amrywiaeth o rywogaethau a chynefinoedd prin a dan fygythiad gan gynnwys llysywod pendoll, dyfrgwn, gwastadeddau llaid a chorsydd.
"Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth y tirfeddiannwr, a ganiataodd i ni ymgymryd â gwaith plannu coed ar raddfa mor fawr ar y tir. Buom yn gweithio'n agos â'r tirfeddiannwr i ddatblygu'r prosiect hwn ac i nodi ardaloedd addas o dir a oedd leiaf cynhyrchiol.
"Yn y blynyddoedd i ddod, bydd y coed hyn yn gweithredu fel hidlydd pwysig, gan leihau faint o faetholion gormodol sy'n cyrraedd Afon Cleddau Wen, ac sy'n effeithio ar afon ac aber yr Ardal Cadwraeth Arbennig."

Mae afonydd Cleddau Wen a Chleddau Ddu yn cyfarfod ym Mhwynt Picton i ffurfio aber Daugleddau yn Aberdaugleddau. Mae'r aber wedi'i ddynodi'n Ardal Cadwraeth Arbennig Forol, tra bod rhannau sylweddol o'i arfordir hefyd wedi'u dynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Mae Afon Cleddau Wen yn wynebu heriau sylweddol o ran ansawdd dŵr, yn bennaf oherwydd llygredd nitrad, ffosffad a gwaddodion. Mae'r llygryddion hyn yn cyfrannu'n sylweddol at fethiannau ansawdd dŵr yn y dalgylch o dan Reoliadau Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (Cymru a Lloegr) 2017.

Mae’r prosiect wedi cael ei ariannu gan Raglen Gyfalaf Dŵr Llywodraeth Cymru, sy'n cefnogi nifer o flaenoriaethau amgylcheddol gan gynnwys adfer afonydd, adfer mwyngloddiau metel, pysgodfeydd ac ansawdd dŵr.

Mae'n cefnogi mentrau eraill yr ymgymerir â hwy yn yr ardal i wella Afon Cleddau Wen, gan gynnwys ymdrechion i adfer afonydd a wneir gan Brosiect Adfer Afonydd Sir Benfro.