Gwaith brys Parc Coedwig Afan yn effeithio ar lwybrau
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n cau rhai llwybrau coedwig wrth i waith torri coed ddigwydd ym Mharc Coedwig Afan ger Port Talbot.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n cau rhai llwybrau coedwig wrth i waith torri coed ddigwydd ym Mharc Coedwig Afan ger Port Talbot.
Mae CNC yn amcangyfrif y bydd angen torri ychydig dros bum acer o goed – tua’r un maint â dau gae rygbi - ger maes parcio Rhyslyn.
Ystyrir bod y coed mewn perygl o syrthio a bod angen eu torri ar frys er mwyn diogelu ymwelwyr â’r goedwig.
Mae cynlluniau ar y gweill hefyd i glirio ardal fawr ger Afon Afan sydd wedi ei gorchuddio â brigau bach. Bydd hyn yn gwella draeniad a chyflwr cyffredinol y llwybr i gerddwyr a beicwyr.
Er mwyn caniatáu i gontractwyr gyflawni’r gwaith yn ddiogel, bydd nifer fechan o lwybrau cerdded a llwybrau beicio mynydd ar gau neu bydd gwyriadau yn eu lle am hyd at wyth wythnos.
Bydd maes parcio Rhyslyn, sy’n rhad ac am ddim, yn parhau i fod ar agor.
Dywedodd James Roseblade, Uwch Swyddog Rheoli Tir Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Parc Coedwig Afan, sy’n nythu ar lethrau Cwm Afan, yw un o’r cymoedd mwyaf cul a mwyaf hardd yng Nghymru.
“Mae CNC yn rheoli rhwydwaith ardderchog o lwybrau er mwyn i bobl archwilio’r lle ar droed neu ar feic, yn ogystal â llwybrau beicio mynydd swyddogol gyda chyfeirbwyntiau. Mae’n rhaid i ni sicrhau bod y rhain yn parhau’n ddiogel i bob ymwelydd.
“Mae perygl y gall y coed hyn syrthio felly mae’n rhaid eu torri cyn gynted â phosibl.
“Mae pob opsiwn wedi ei wyntyllu er mwyn sicrhau cyn lleied o amharu â phosibl ac rydym wedi gosod cymaint o wyriadau â phosibl yn eu lle.”
Bydd gwaith o wella rhan o’r llwybr ger Nant Cynon hefyd yn dechrau ddydd Llun 3 Chwefror. Bydd y gwaith hwn yn gwella draeniad a wyneb y llwybr.
Caiff rhan olaf llwybrau beicio mynydd Penhydd a Blue Scar eu heffeithio hefyd tra bod y gwaith yn cael ei gwblhau.
Mae’r gwaith o ddiweddaru’r llwybr yn debygol o gael ei orffen mewn pythefnos. Caiff y llwybrau eu hailagor cyn gynted ag y bydd hi’n ddiogel i wneud hynny.
Ychwanegodd James:
“Rydw i’n gwybod bod Parc Coedwig Afan yn lle sy’n agos at galonnau llawer ac rydw i’n diolch i’r gymuned a’r ymwelwyr am eu hamynedd wrth i ni wneud y gwelliannau hyn.
“Rydym yn gofyn i bobl beidio â mynd ar hyd llwybrau sydd wedi cau ac i ddilyn arwyddion a gwyriadau er eu lles eu hunain. Gallai peidio ag ufuddhau arwain at oedi ar y gwaith ac ail-agor y goedwig.”
Am ragor o wybodaeth am y gwyriadau ewch i Adran Parc Coedwig Afan o wefan CNC.