Arolwg archaeolegol cyntaf ar hen faes tanio i filwyr

Mae arolwg diweddar wedi taflu goleuni newydd ar un o'r meysydd hyfforddi gwrth-danciau pwysicaf a ddefnyddiwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Am y tro cyntaf, mae Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd (sydd bellach yn rhan o Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru) wedi cynnal arolwg archaeolegol proffesiynol ar ran o Faes Tanio Morfa, sy’n 1,000 erw o faint ac wedi'i leoli yn yr ardal lle mae Coedwig Harlech erbyn heddiw.

Ariannwyd yr arolwg gan brosiect Twyni Byw sydd wedi bod yn gweithio i wella ac amddiffyn y twyni cyfagos.

Defnyddiwyd y maes tanio i hyfforddi milwyr i ryfela yn erbyn tanciau ac roedd yn un o'r prif gyfleusterau hyfforddi ym Mhrydain, gan chwarae rhan bwysig o ran gwella galluoedd y Cynghreiriaid.

Mae canolbwynt y maes tanio, sef rheilffordd dargedau 5km o hyd o'r enw Rheilffordd y Maes Tanio, yn dal i’w weld fel clawdd amddiffynnol dau fetr o uchder wedi'i gynnal gan wal wedi'i gwneud o fagiau tywod llawn concrit.

Roedd injans yn tynnu ceir rheilffordd gyda thargedau arnynt ar hyd y rheilffordd tra bod milwyr yn tanio gynnau gwrth-danciau atyn nhw.

Canfuwyd llwybr llawn y rheilffordd dargedau gan ddefnyddio technegau delweddu laser a ffotograffau o'r awyr, a chafodd darn 1km o hyd ei arolygu'n fanwl ar y ddaear.

Roedd y rhan fwyaf o arglawdd y rheilffordd wedi’i orchuddio â phrysgwydd trwchus, mieri, malurion a choed conwydd, ond cliriwyd bron i 1km o’r clawdd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fel rhan o brosiect Twyni Byw, a ariennir gan yr UE, a’n galluogodd i archwilio ac arolygu’r rhan hon o’r rheilffordd.

Dywedodd Jane Kenney, o Heneb, a arweiniodd yr arolwg:

“Mae’r rheilffordd yn drysor hynod gyffrous, na wyddem fawr ddim amdano o’r blaen.

“Er gwaethaf ei faint a’i bwysigrwydd, nid yw’r maes hyfforddi erioed wedi’i archwilio a’i gofnodi’n llawn a thrwy glirio rhannau o’r safle, fe ddysgon ni fwy amdano.

“Er ei fod yn rhan gymharol ddiweddar o’n hanes, mae pwysigrwydd archaeoleg yr Ail Ryfel Byd yn cael ei gydnabod fwyfwy gan arbenigwyr a’r cyhoedd fel ei gilydd.

“Roedd meysydd hyfforddi gwrth-danciau yn brin ym Mhrydain ar y pryd, ac mae hon yn enghraifft sydd mewn cyflwr arbennig o dda gyda system draciau anarferol ac eang ar gyfer y targedau.”

Ar y safle hefyd mae olion gwersyll wedi'u claddu gyda llety i filwyr, peiriandai a chysylltiadau â'r brif reilffordd.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn dilyn gwaith ar wahân gan Twyni Byw i ymdrin ag ordnans heb ffrwydro, datgelwyd dau daflegryn byw, yr oedd yn rhaid i arbenigwyr eu gwneud yn ddiogel, yn ogystal â shrapnel ac esgyll mortarau.

Dywedodd Kathryn Hewitt, Rheolwr Prosiect Twyni Byw ar gyfer CNC:

“Rydym yn falch o fod wedi gweithio gyda Heneb i ddysgu mwy am y rhan bwysig hon o hanes yr ardal.

“Galluogodd y gwaith clirio rydym wedi’i wneud i’r Ardal Cadwraeth Arbennig bwysig hon gael ei ffensio a’i phori er mwyn cynnal ei gwerth bywyd gwyllt. 

“Ond yn ogystal â helpu i warchod yr amgylchedd naturiol, mae’r gwaith hwn wedi gwneud y strwythur hanesyddol pwysig hwn yn haws i’w weld a’i gyrraedd.”

Mae llawer o’r maes tanio yn dal i fod yn gudd o dan Goedwig Harlech ond gall y cyhoedd ddilyn y ffyrdd concrit a adeiladwyd adeg y rhyfel a gweld arglawdd y rheilffordd ar ochr fwyaf gorllewinol y goedwig lle mae’n agor allan i’r twyni tywod.

Gellir lawrlwytho'r adroddiad archaeolegol llawn gan Heneb drwy'r ddolen hon.