Cyflenwad newydd yn rhoi hwb i Bysgodfa Gymunedol Trefnant
Mae cymuned bysgota pentref Trefnant yn Sir Ddinbych wedi cael hwb i’w phoblogaeth o bysgod yn dilyn adleoli carpiaid o Lyn Gresffordd i Bysgodfa Gymunedol Trefnant.
Mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi bod yn gweithio er mwyn adleoli cyfran o garpiaid y llyn fel rhan o ymdrech i leihau’r galw am fwyd ac ocsigen yn y llyn, ac ar yr un pryd gwella mynediad i gyfleoedd genweirio hamdden mewn mannau eraill yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Cafodd y carpiaid archwiliad iechyd ym mis Tachwedd, a ariannwyd gan Brosiect Pysgodfeydd Cynaliadwy CNC, i sicrhau nad oedd ganddynt barasitiaid na chlefydau cyn eu symud ar 25 Mawrth. Bydd eu symud yn helpu i gynnal poblogaeth iachach o bysgod a chanddynt adnoddau digonol i oroesi yn gyfforddus drwy’r flwyddyn.
Meddai Richard Pierce, Uwch Swyddog Pysgodfeydd CNC:
“Rydym yn falch o allu ysgafnhau’r galw am fwyd ac ocsigen yn Llyn Gresffordd ac ar yr un pryd gwella mynediad i gyfleoedd genweirio hamdden ym Mhysgodfa Gymunedol Trefnant.
“Mae’r broses hon o adleoli pysgod yn fanteisiol i’r gymuned yng Ngresffordd gan ei bod yn lleihau’r risg o bysgod yn cael eu lladd o ganlyniad i orboblogi. Mae hefyd yn fanteisiol i enweirwyr Trefnant gan ei bod yn rhoi hwb i nifer y carpiaid sydd ar gael i’w pysgota.
“Mae bod allan yng nghanol natur mor bwysig i ni gyd. Rydym yn gobeithio y bydd adleoli’r pysgod yn annog mwy o bobl ifanc i ddod i ymuno â chlwb Pysgodfa Gymunedol Trefnant a dechrau ymddiddori mewn pysgota.”
Meddai Craig Smallwood, Ysgrifennydd Aelodaeth Pysgotwyr Bras Bodelwyddan:
“Mae CNC wedi bod o gymorth mawr i ni, nid yn unig gyda physgod i’r bysgodfa gymunedol ond gyda materion eraill hefyd. Rydym yn edrych ymlaen at barhau ein perthynas weithio agos yn y dyfodol.”
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am y Prosiect Pysgodfeydd Cynaliadwy neu sut y gallai eich cymuned leol chi greu ei physgodfa gymunedol ei hun, e-bostiwch katrina.marshall@cyfoethnaturiol.cymru