Cwympo coed yn Rhyd-ddu oherwydd clefyd y llarwydd
Bydd gwaith cwympo coed yn dechrau yn Rhyd-ddu, rhan o goedwig ehangach Cwellyn ger Caernarfon, am gyfnod o hyd at chwe wythnos.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gwneud y gwaith, a fydd yn cychwyn ddydd Llun 21 Awst, dan Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol ar ôl i nifer o goed llarwydd gael eu heintio â Phytophthora ramorum, a elwir yn gyffredin yn glefyd y llarwydd.
Er mwyn cydymffurfio â'r hysbysiad, bydd angen cwympo'r coed i atal y clefyd rhag lledaenu ymhellach.
Dywedodd Kath McNulty, Arweinydd Tîm Gweithrediadau Coedwig CNC yng Ngogledd-orllewin Cymru:
“Bydd 1.5 hectar i gyd yn cael eu cwympo yn ardaloedd deheuol y goedwig. Mae'r gwaith wedi'i gynllunio i sicrhau y bydd coed brodorol yn parhau yn y dirwedd ac na fydd y gweithrediadau a gynllunnir yn effeithio ar weddill y goedwig.
“Ar ôl cwblhau’r gwaith cwympo, bydd yr ardaloedd hynny’n cael eu gadael fel y gall rhywogaethau coed llydanddail hunan-hadu a sefydlu ymhellach. Yn y pen draw, bydd hyn yn helpu bioamrywiaeth i ffynnu drwy sicrhau strwythur mwy amrywiol, er enghraifft gwahanol oedrannau a rhywogaethau o goed.
“Er mwyn tarfu cyn lleied â phosib ar fywyd gwyllt ar y cychwyn, mae ein hecolegwyr wedi arolygu’r ardaloedd sydd i'w cwympo ac ni ddaethant ar draws unrhyw broblemau.
“Hoffem ddiolch i aelodau'r gymuned leol am eu cydweithrediad a'u dealltwriaeth.”
Bydd arwyddion yn cael eu gosod gan gontractwyr SJF Timber a bydd rhywfaint o darfu dros dro er mwyn caniatáu i'r gwaith cwympo ddigwydd yn ddiogel.
Gofynnir i ymwelwyr â’r goedwig gymryd gofal drwy gadw at lwybrau sydd wedi'u marcio, talu sylw i holl arwyddion y safle a chadw cŵn ar dennyn.
Bydd mynedfeydd i breswylwyr yn parhau i fod ar agor bob amser ond efallai y bydd rhywfaint o oedi tra bod lorïau’n codi pren.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Thîm Gweithrediadau Coedwig Gogledd-orllewin Cymru ar 0300 065 3000 neu e-bostiwch GweithrediadauCoedwigoeddGogleddOrllewin@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk