Y Nythaid Nesaf o Weilch y Pysgod yng Nghymru
Mae tri o gywion gwalch y pysgod yn y Canolbarth wedi'u modrwyo gan Gyfoeth Naturiol Cymru i helpu dysgu mwy am eu symudiadau.
Gwnaeth pâr o adar ysglyfaethus sy'n bwyta pysgod y daith epig o Affrica i'w nyth yng nghoedwig Hafren, ger Llanidloes, fis Ebrill cyn bridio'n llwyddiannus am y chweched flwyddyn yn olynol.
Mae arbenigwyr trwyddedig Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) bellach wedi ymweld â'r nyth pwrpasol sy'n eistedd 25 metr uwchben y ddaear yn edrych dros Lyn Clywedog.
Cadarnhawyd bod tri chyw i - dwy fenyw ac un gwryw - a bod pwysau'r tri yn dda a'u bod i'w gweld yn iach.
Dywedodd Rhys Jenkins, Swyddog Cadwraeth a Threftadaeth Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae ein safleoedd fel coedwig Hafren yn cael eu rheoli'n ofalus iawn er mwyn cefnogi bywyd gwyllt, pobl a'r economi ar gyfer y dyfodol.
“Bob blwyddyn rydym yn monitro cynnydd yr adar, yn cynnal ychydig o archwiliadau iechyd ac yn modrwyo'r cywion er mwyn eu hadnabod unrhyw le yn y byd. Mae hyn yn ein helpu i ddysgu mwy am eu symudiadau.
“Pwy ŵyr, efallai gwelwn ni weilch y pysgod wedi'u geni yn Hafren yn dychwelyd ac yn magu yng Nghymru un diwrnod!”
Mae pymtheg o gywion wedi'u magu'n llwyddiannus yn y nyth dros y 6 mlynedd diwethaf.
Mae'r iâr, a elwir hefyd yn Delyth, yn dod i fridio ar y safle hwn am 6 mlynedd.
Cyrhaeddodd Dylan, y ceiliog, y safle am y tro cyntaf ddwy flynedd yn ôl cyn goresgyn y ceiliog gwreiddiol.
Parhaodd Rhys:
“Fe wnaethom greu'r llwyfan nythu yn 2005 i wneud y safle'n fwy deniadol i'r gweilch ac rydym wedi gweithio'n galed i sicrhau bod y cynefinoedd yn derbyn gofal ac yn addas ar gyfer pob rhywogaeth.
“Mae eu gweld yn dychwelyd i'r nyth flwyddyn ar ôl blwyddyn yn werth chweil ac yn dangos bod ein gwaith yn talu ar ei ganfed.”
Roedd camera a osodwyd yn y nyth yn dal lluniau o'r wyau a brithyll enfys a ddaliwyd gan yr adar.
Mae croeso i ymwelwyr i'r safle, ond mae llefydd parcio a chyfleusterau yn yr ardal yn gyfyngedig.
Mae yna guddfan gwylio fach ar y safle, ond ni chaiff ymwelwyr fynd o fewn 400 metr i'r nyth er mwyn sicrhau nad oes tarfu ar yr adar.