Cymryd camau i reoli niferoedd uchel disgwyliedig o ymwelwyr yn Niwbwrch
Gofynnir i bobl sy’n bwriadu ymweld ag un o safleoedd naturiol mwyaf poblogaidd Cymru dros yr wythnosau nesaf gynllunio ymlaen llaw a pharatoi ar gyfer y tebygolrwydd o beidio â gallu cael mynediad i’r safle gyda char yn y cyfnodau prysuraf.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn disgwyl nifer uchel o ymwelwyr â Gwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch ar Ynys Môn dros yr wythnosau nesaf a thros benwythnos Gŵyl y Banc.
Gofynnir i’r rhai sy’n ymweld gynllunio ymlaen llaw, ystyried tagfeydd traffig, parchu’r gymuned a’r amgylchedd lleol a bod yn barod i’r maes parcio fod yn llawn ar adegau prysur – penwythnosau a rhwng 11am a 3pm mewn cyfnodau o dywydd braf.
Mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ynys Môn ac yn dilyn cyfarfod â chynrychiolwyr etholedig lleol, mae mesurau ychwanegol yn cael eu treialu ym mhentref Niwbwrch i helpu i reoli tagfeydd traffig ar yr A4080 a lliniaru’r effeithiau ar bobl leol.
Yr uchelgais yw galluogi traffig i lifo’n fwy rhwydd drwy’r pentref, yn ogystal â chyfyngu ar y mynediad i’r ffordd gul at y safle a rhoi gwybod am draethau eraill yn yr ardal pan fydd y maes parcio yn llawn. Y gobaith yw y bydd y treial yn cyfrannu at gynlluniau tymor hirach i reoli problemau traffig a mynediad yn Niwbwrch a’r cyffiniau yn y dyfodol.
Gofynnir i ymwelwyr fod yn amyneddgar ac i barchu’r rhai sy’n byw ac yn gweithio yn y gymuned o amgylch Niwbwrch a Llanddwyn. Fe’u hatgoffir hefyd i fynd â sbwriel adref gyda nhw, i beidio â chynnau tân, i fod yn berchnogion cŵn cyfrifol ac i beidio ag achosi difrod neu aflonyddwch.
Dywedodd Justin Hanson, Arweinydd Tîm Pobl a Lleoedd Gogledd-orllewin Cymru ar ran CNC:
“Rydyn ni’n disgwyl i’r niferoedd uchel o ymwelwyr a welwyd eisoes yn Niwbwrch barhau, yn enwedig ar benwythnosau a phan fydd y tywydd yn braf.
“Am ei fod mewn lle gwledig, yn aml gall fod yn fater anodd i’w reoli. Mae’r mewnlifiad o gerbydau yn achosi tagfeydd drwy’r pentref ac yn golygu bod y maes parcio’n llenwi yn fuan ar ôl agor. At hynny, am fod ymwelwyr yn aml yn aros drwy’r dydd, mae hi’n llawer llai tebygol y caiff ymwelwyr eraill fynediad i’r safle.
“Rydyn ni’n gofyn i bobl ystyried cynllunio eu hymweliad ar wahanol adegau neu ystyried un o’r nifer o draethau a chyrchfannau gwych eraill ar Ynys Môn.
“Fe hoffen ni hefyd atgoffa ymwelwyr nad oes caniatâd i aros dros nos ar safleoedd CNC a bod nifer o safleoedd gwersylla lleol yn yr ardal.”
Bydd wardeiniaid yn patrolio safleoedd CNC yn ystod yr haf i ateb unrhyw gwestiynau, rhoi cyngor ac arweiniad a sicrhau bod ymwelwyr yn cael y profiad gorau.
Mae CNC yn gweithio gyda Chyngor Sir Ynys Môn a’r gymuned leol i edrych ar faterion rheoli traffig a mynediad tymor hir yn Niwbwrch a’r cyffiniau.
Cynhaliwyd gweithdy ar y cyd yn gynharach eleni gan ddod â phobl leol, busnesau, sefydliadau cymunedol a gwasanaethau cyhoeddus ynghyd.
Ymysg yr awgrymiadau a gasglwyd yn ystod y gweithdy hwn roedd syniadau ar gyfer y tymor byr a’r tymor hir, newidiadau i brisiau’r meysydd parcio, ystyried opsiynau amgen ar gyfer parcio, gwella mynediad ar lwybrau troed ac ar feic a newidiadau i ddulliau rheoli traffig ar y safle ac o’i gwmpas.
Rydym bellach yn gweithio gyda’r gymuned a phartneriaid i ystyried yr awgrymiadau hyn, datblygu cynllun gweithredu ac ymchwilio i ddatrysiadau posibl a chyfleoedd am gyllid.
Mae hyn yn rhan o broses barhaus, a byddwn yn siarad â’r cyhoedd eto yn y dyfodol.