Arolygon i'w cynnal ar safleoedd o bwysigrwydd rhyngwladol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru
Bydd arolygon llystyfiant ar Rostir Llandegla a Mynyddoedd Rhiwabon a Llandysilio yn cael eu cynnal yr haf hwn i helpu i arwain y gwaith o reoli’r safleoedd hyn, sydd o bwysigrwydd rhyngwladol.
Bydd yr arolwg Dosbarthiad Llystyfiant Cenedlaethol ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Rhostir Llandegla, a Mynyddoedd Rhiwabon a Llandysilio, sy’n rhan o SoDdGA Mwynglawdd a Mynyddoedd Rhiwabon a Llandysilio, yn rhoi’r cofnod mwyaf cyfredol i swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) o’r fflora a'r llystyfiant yn yr ardaloedd.
Bydd gwybodaeth yr arolwg hefyd yn amlygu unrhyw newidiadau sydd wedi digwydd ac yn arwain y gwaith o reoli’r safleoedd yn y dyfodol i weddu i fywyd gwyllt a phobl yn well.
Difrodwyd hyd at 250 hectar o arwynebedd Mynydd Llandysilio gan danau gwyllt yn 2018. Bydd yr arolwg yn archwilio’r ardaloedd a losgwyd yn ddiweddar a bydd yn helpu i ddangos sut mae'r mynydd yn adfer yn barhaus ar ôl y tanau gwyllt dinistriol.
Mae SoDdGA Rhostir Llandegla a SoDdGA Mwynglawdd a Mynyddoedd Rhiwabon a Llandysilio yn rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) ehangach y Berwyn a Mynyddoedd De Clwyd. Bydd yr arolygon yn cael eu cwblhau gan JBA Consulting gyda chymorth swyddogion CNC a thirfeddianwyr lleol.
Meddai Rhys Ellis, Arweinydd Tîm Amgylchedd CNC ar gyfer Sir Ddinbych:
“Bydd y wybodaeth hollbwysig a gasglwyd o’r arolygon arfaethedig hyn ar Rostir Llandegla a Mynyddoedd Rhiwabon a Llandysilio yn helpu i arwain y gwaith o reoli’r safleoedd yn y dyfodol. “Mae’r fflora a’r llystyfiant a geir ar y safleoedd hyn yn helpu i liniaru perygl llifogydd trwy gadw dŵr ar yr ucheldiroedd, storio carbon a chynnal amrywiaeth o anifeiliaid di-asgwrn-cefn a mamaliaid, yn ogystal â darparu cynefin ar gyfer rhywogaethau adar sydd mewn perygl fel y grugiar ddu, y boda tinwyn a’r gylfinir. “Wrth i ni barhau i frwydro yn erbyn argyfwng yr hinsawdd bydd y wybodaeth hefyd yn ein galluogi i reoli’r safle mewn modd a fydd yn ceisio lleihau’r potensial ar gyfer tanau gwyllt pellach fel yr un dinistriol ar Fynydd Llandysilio yn 2018.”
Mwy o wybodaeth am y gwaith rheoli cynefin diweddar ar fynydd Llandysilio.