DATGANIAD | Adroddiad ar Arolwg Adar Bridio Ceibwr 2024 wedi'i gyhoeddi
Contractiodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ecolegydd annibynnol i gynnal arolwg i asesu effaith bosibl gweithgareddau arfordira ar adar y môr sy’n magu ym Mae Ceibwr ger Trewyddel, Sir Benfro.
Cynhaliwyd yr arolwg yr haf hwn, yn dilyn pryder gan y cyhoedd y gallai arfordira fod yn effeithio ar lwyddiant magu llursod, gwylogod a gwylanod y penwaig.
Ni chofnodwyd unrhyw effeithiau yn ymwneud ag aflonyddu ar y tymor magu yn ystod yr arolwg, er y mynegwyd pryderon ynghylch y posibilrwydd y gallai grwpiau gweithgaredd achosi aflonyddwch i adar y môr yn anfwriadol.
Mae’r adroddiad yn argymell gwell addysg i grwpiau gweithgareddau arfordirol ar effeithiau aflonyddu ar adar y môr, a chyflwyno ardal waharddedig dros dro yng nghyffiniau’r nythod.
Mae CNC yn cydnabod yr argymhellion a wnaed yn yr adroddiad ac wedi rhannu’r canfyddiadau gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Rhoddir ystyriaeth i wella pecynnau addysg a hyfywedd ardaloedd gwaharddedig.
Dywedodd Rhys Jones, Arweinydd Tîm Rheoli Tir, Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Os dilynir yr argymhellion hyn a’r canllawiau presennol ar gyfer arferion gorau, dylai fod yn bosibl i’r ddau weithgaredd barhau mewn ffordd sy’n caniatáu i fyd natur a phobl ffynnu gyda’n gilydd.”
Mae’r adroddiad llawn ar gael ar wefan CNC: https://naturalresources.wales/media/itfn0kz4/nrw-evidence-report-no-800.pdf.