Datganiad ar gweithfeydd trin dŵr gwastraff Aberteifi
Rydym yn ymwybodol bod materion cydymffurfio sylweddol yng ngwaith trin dŵr gwastraff Aberteifi, ac rydym wedi defnyddio ein pwerau rheoleiddio i orfodi’r gwelliannau y bu eu hangen ar y safle dros y blynyddoedd.
Mae’r mater bellach yn un na ellir ei ddatrys heb i Dŵr Cymru fuddsoddi’n sylweddol ac uwchraddio’r seilwaith.
Ond dyma’r math o fuddsoddiad rydyn ni a’r cyhoedd yn ei ddisgwyl. Mae’r camau gorfodi rydym yn eu cymryd ar y safle hwn yn ei gwneud yn ofynnol i Dŵr Cymru ymrwymo i’r rhaglen waith hon yn ystod eu cyfnod buddsoddi nesaf a byddwn yn gweithio gyda nhw i sicrhau’r gwelliannau ar y safle hwn yr ydym i gyd am eu gweld.
Ar hyn o bryd rydym yn ymchwilio achosion o dorri amodau’r drwydded ar y safle, a mae'r ymchwyliad yn parhau. Ymdrinnir ag unrhyw achosion o dorri amodau’r drwydded yn unol â’n Polisi Gorfodi a Sancsiynau.
Mae’r ddau reoleiddiwr, Ofwat a CNC, wedi bod yn glir bod y defnydd presennol o ollyngiadau gorlifoedd storm yn annerbyniol a bod angen ei newid. Rydym yn deall pryder llawer o bobl ar hyd a lled Cymru bod gorlifoedd yn gweithredu’n rhy aml ac rydym yn cymryd camau i sicrhau bod ein gwaith rheoleiddio gorlifoedd yn ymateb i anghenion yr amgylchedd a’r cyhoedd.
Rydym yn parhau i herio cwmnïau dŵr i wella eu perfformiad ar draws eu holl asedau, er mwyn sicrhau bod gorlifoedd yn cael eu rheoli’n iawn. Mae hyn yn cynnwys tynhau ein gwaith rheoleiddio a’n gwaith ar Dasglu Gwella Ansawdd Afonydd Cymru. Rydym hefyd yn goruchwylio rhaglen o fuddsoddiad o £20m gan y cwmnïau dŵr i leihau ymhellach effaith gorlifoedd storm, gan flaenoriaethu safleoedd lle mae llawer o ollyngiadau.