Gwaith ar gynefin yn rhoi hwb i rywogaeth mewn llecyn prydferth
Mae cen eithriadol o brin wedi’i ganfod yn y DU am yr eildro’n unig gan fod niferoedd y rhywogaethau bron wedi dyblu mewn llecyn tlws yn Eryri lle ceir cyfoeth o fioamrywiaeth.
Mae gwaith ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Ffos Anoddun ger Rhaeadr y Graig Lwyd ar Afon Conwy yn helpu i warchod bywyd gwyllt a phlanhigion trwy reoli rhywogaethau o blanhigion estron goresgynnol.
Yn dilyn arolwg diweddar a gomisiynwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) roedd cyfanswm y rhywogaethau o gennau ar y safle yn 209, gyda 94 ohonynt yn y categori ‘prin yn genedlaethol’, sydd bron yn dyblu’r nifer a gofnodwyd yn flaenorol.
Mae hyn yn cynnwys rhywogaeth o gen cefnforol deheuol hynod brin o’r enw Porina atlantica a ganfuwyd yn unig cyn hyn ar hen goed derw, ac yn achlysurol iawn ar greigiau, mewn coetir hynafol yn Ne-orllewin Iwerddon ac ar un safle arall yng Ngogledd Cymru, sef Ceunant Llennyrch.
Dros y 12 mis diwethaf mae rhododendron, llawr-geirios, asalea melyn, a hemlog y gorllewin wedi dechrau cael eu tynnu o’r safle gan eu bod yn bygwth rhywogaethau coed brodorol. Drwy wneud hyn darperir lloches a bwyd i adar sy’n nythu fel tingoch a thelor y coed ac ystlumod gan gynnwys ystlum pedol lleiaf a’r ystlum hirglust.
Comisiynwyd y gwaith gan CNC mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac fe’i hariennir gan Gronfa Rhwydwaith Natur Llywodraeth Cymru i gryfhau gwytnwch amgylcheddol tir gwarchodedig Cymru.
Meddai Rob Booth, Swyddog Adfer Bioamrywiaeth CNC:
“Mae Ffos Anoddun a Rhaeadr y Graig Lwyd wedi bod yn atyniadau cyson i ymwelwyr Eryri ers dros 200 mlynedd.
“Mae rheoli a chael gwared ar rywogaethau goresgynnol estron yn lleihau cysgod a chystadleuaeth gyda rhywogaethau brodorol, ac yn helpu’r ceunant i ddarparu amodau delfrydol ar gyfer mwsoglau, cennau a rhedyn sy’n tyfu ar glogfeini yn yr afon, ar goed a brigiadau creigiog agored yn y coetir.
“Mae’r arolwg diweddaraf hwn wedi dangos pa mor bwysig yw’r gwaith hwn ac wedi arwain ein ffordd o weithio. Mae'n ardderchog gweld cymaint o rywogaethau'n ffynnu yn yr amgylchedd hwn.
“Yn ogystal ag adar, ystlumod, mwsoglau a phlanhigion prin, mae SoDdGA Ffos Anoddun yn gartref i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt fel dyfrgwn, moch daear, nythfeydd o forgrug coch, eogiaid ynghyd â’r chwilen Agelastica alni brin a’r fritheg berlog.
Drwy gael gwared ar rywogaethau o blanhigion estron goresgynnol yn raddol ac mewn ffordd sensitif, rydym yn sicrhau nad yw hyn yn cael effaith andwyol ar fwsoglau prin, na mathau eraill o fywyd gwyllt a phlanhigion, sydd i’w cael yn y ceunant.”
Yn ystod yr hydref a’r gaeaf hwn, bydd gwaith cylch-deneuo conwydd a ffawydd yn digwydd ar raddfa fechan o amgylch coed derw hynod allweddol a nodwyd yn yr arolwg er mwyn helpu cen sydd angen goleuni’r haul i oroesi a lledaenu.
Bydd gwaith hefyd yn parhau i reoli a chael gwared ar rywogaethau estron goresgynnol.
Bydd llwybrau troed yn parhau i fod ar agor, ond gofynnir i ymwelwyr ddilyn y canllawiau ar arwyddion sydd wedi eu gosod yn ystod y gwaith.
Gallwch ddarganfod mwy trwy wylio 'Garddio a Mwy' S4C a ddarlledwyd yn ddiweddar ac sydd ar gael ar BBC iPlayer (yn dechrau am 3 munud 49 eiliad) gydag isdeitlau ar gael yn Garddio a Mwy - Cyfres 2024: Pennod 20 - BBC iPlayer.