Arbed byd natur trwy ymgysylltu drwy’r celfyddydau

 Artist Profile

Bydd cydweithrediad artistig newydd gyda phrif brosiect adferiad gwyrdd Cymru, Natur am Byth, yn helpu i gysylltu mwy o bobl â natur ac ysbrydoli cenedl ar gyflwr ein rhywogaethau sydd dan y bygythiad mwyaf.

Yn dilyn galwad am geisiadau ym mis Mai, mae 10 artist wedi’u penodi’n llwyddiannus i ymgymryd â chyfres o breswyliadau artistiaid cyswllt ledled Cymru, fel rhan o Raglen Ymgysylltu drwy’r Celfyddydau Natur am Byth.

Bydd y preswyliadau yn cyflawni yn erbyn trydydd llinyn y prosiect Natur am Byth, sef i feddwl o’r newydd am y ffordd yr ydym yn gweld rhywogaethau, trwy weithgareddau creadigol a phrosiectau bach a fydd yn helpu i adrodd straeon hynod ddiddorol ein rhywogaethau mwyaf agored i niwed, ac sydd fwyaf dan fygythiad difodiant, trwy’r celfyddydau a diwylliant.

Mae rhai o’r rhywogaethau sydd mewn perygl a fydd yn cael eu hamlygu yn ystod y preswyliadau yn cynnwys yr ystlum du, y gardwenynen feinlais, a’r fritheg frown.

Bydd y canlynol yn cael ei wneud yn ystod pob preswyliad:

  • Archwilio’r rôl y mae prosesau artistig yn ei chwarae o ran meddwl o’r newydd am y ffordd yr ydym yn ystyried rhywogaethau – yn enwedig ein rhywogaethau mwyaf agored i niwed, sydd yn aml yn fach o ran eu maint ac yn ddi-nod ar yr olwg gyntaf
  • Defnyddio strategaethau a gweithgareddau creadigol i ymgysylltu â phobl, yn benodol pobl sydd â llesiant corfforol a/neu feddyliol isel (gan gynnwys y rhai yr effeithiwyd arnynt fel hyn gan bandemig COVID-19), wrth fyfyrio ar y materion sy’n effeithio ar y rhywogaethau ym mhob un o’r safleoedd prosiect ledled Cymru, gyda’r bwriad o wella a diogelu llesiant a chynefinoedd y rhywogaethau a’r cyfranogwyr fel ei gilydd
  • Creu archif ar-lein o’r gweithiau celf digidol a gynhyrchir drwy’r preswyliadau sy’n helpu i adrodd i gynulleidfa ehangach hanes hynod ddiddorol ein rhywogaethau mwyaf agored i niwed, ac sy’n adlewyrchu cyd-destun cenedlaethol rhaglen Natur am Byth

Mae’r Rhaglen Ymgysylltu drwy’r Celfyddydau wedi’i hariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Dywedodd John Clark, Rheolwr Rhaglen Natur am Byth:

Mae gan Gymru draddodiad hir o ddefnyddio ei thirweddau fel gofodau perfformio ac artistig, ac wrth i’r sector creadigol chwilio am ffyrdd newydd ac arloesol o ddod â chelf i gymunedau, gall sector yr amgylchedd ddarparu gwir ysbrydoliaeth a chefnogaeth.
Mae pwysigrwydd hanfodol mynd i’r afael ag achosion ac effeithiau’r argyfyngau hinsawdd a natur, a’r rhywogaethau sydd fwyaf mewn perygl, yn feysydd archwilio ac ysbrydoliaeth cyfoethog i artistiaid ar draws y byd. Mae’n dod â’r rhai sy’n arbenigo mewn gwyddor amgylcheddol ynghyd ag artistiaid sy’n gallu cyfathrebu brys a phwysigrwydd yr heriau sy’n ein hwynebu.
Mae gan fyd natur allu rhyfeddol sydd wedi’i ddogfennu’n dda i’n helpu i wella a chodi ein teimladau o les corfforol a meddyliol. Mae hwn yn gyfle cyffrous iawn i weithio gyda gweithwyr creadigol proffesiynol i roi cyfle i ragor o bobl gysylltu â byd natur drwy ymgysylltu â rhaglen y celfyddydau. Mae pob artist yn dod ag ystod eithriadol o arferion a fydd yn dathlu gwerth byd natur i’n diwylliant, ein hiaith, a’n hymdeimlad o les yng Nghymru.

Dywedodd Dr Sarah Pace a Dr Tracy Simpson, Cyd-gyfarwyddwyr Addo Creative:

Gwnaed argraff fawr arnom gan raddfa’r diddordeb yn y rhaglen breswyl ac ansawdd uchel y ceisiadau a ddaeth i law. Bydd pob un o’r deg preswyliad artist yn arddangos pŵer arferion artistiaid i gysylltu pobl Cymru â byd natur i wella eu llesiant yn ogystal â lles ein rhywogaethau sydd fwyaf mewn perygl.

Dywedodd Karine Décorne, Rheolwr Rhaglen, Creative Nature, Cyngor Celfyddydau Cymru:

Rydym wrth ein bodd bod penodi 10 artist yn ychwanegu cefnogaeth bellach i weithwyr creadigol proffesiynol sy’n gweithio yng Nghymru. Mae hyn yn adeiladu ar ein memorandwm cyd-ddealltwriaeth gydag CNC ac yn cefnogi ymhellach ein Partneriaeth Natur Greadigol, sy’n anelu at feithrin perthnasoedd rhwng y celfyddydau a natur.

Rydym yn croesawu pawb i ymuno â thaith Natur am Byth – defnyddiwch yr hashnod #NaturAmByth ar eich cyfryngau cymdeithasol i chwilio am bostiadau ar draws ein platfformau, edrychwch ar ein gwefan, neu cofrestrwch ar gyfer   i ddarganfod mwy.

 

From left - right: Catrin Menai, Patricia MacKinnon-Day, Hedydd Ioan, Lily T Tonkin Wells, Cheryl Beer, Martha Orbach, Glenn Davidson & Anne Hayes (art station), Vivian Ross- Smith, Bettina Furnee, Vicky Isley and Paul Smith (boredomresearch)