Gwaith adfer yn Niwbwrch yn effeithio’n gadarnhaol ar fioamrywiaeth
Mae prosiect cadwraeth wedi cwblhau gwaith adfer gwerth £325,000 ar safle yn Ynys Môn.
Mae’r gwaith a wnaed yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Niwbwrch eleni yn cynnwys gwaith adfer ar raddfa fawr mewn nifer o bantiau a hen laciau twyni, torri 11ha o laswelltir er budd cadwraeth, codi 4km o ffensys newydd, rheoli rhywogaethau estron goresgynnol ar fwy na 9.5ha a thynnu mwy na 18ha o goed conwydd marw.
Cwblhawyd y gwaith gan brosiect Twyni Byw, a ariennir gan yr UE dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), sy’n gweithio i adfer twyni tywod a’u bioamrywiaeth ledled Cymru.
Mae Niwbwrch yn safle o bwys rhyngwladol. Mae’n gartref i rai o gynefinoedd mwyaf gwerthfawr Cymru ac yn cynnal amrywiaeth o degeirianau, amffibiaid, ymlusgiaid ac infertebratau prin.
Dywedodd Jake Burton, Swyddog Prosiect Twyni Byw ar ran CNC:
“Rydym yn falch iawn o fod wedi cwblhau rhaglen waith eleni yn Niwbwrch, a gallwn edrych yn ôl ar gyfnod llwyddiannus lle cafodd gwaith gwerth £325,000 ei gwblhau er mwyn adfer bioamrywiaeth.
“Rydym ni wedi cael gwared ar lystyfiant sydd wedi gordyfu, hwyluso symudiad ehangach rhwng cynefinoedd, ac wedi cynyddu arwynebedd y cynefinoedd hynny sy’n gorlifo’n dymhorol i helpu poblogaethau prin o dafol y traeth, planhigyn sydd dan fygythiad, ac un o nifer o blanhigion arbenigol yn Niwbwrch. Rydym ni hefyd wedi gwella amodau ar y safle ar gyfer madfallod dŵr cribog a warchodir gan Ewrop
“Er y gall crafu llaciau’r twyni swnio ac edrych yn eithafol i ddechrau, mae ein gwaith wedi bod yn hanfodol er mwyn adfer 4ha o dywod moel sydd wedi bod yn diflannu’n raddol o Niwbwrch dros y blynyddoedd.
“O ganlyniad i’r gwaith sydd wedi cael ei wneud, mae mwy o dywod moel ar gael i ddarparu cartref i ystod o infertebratau, planhigion arbenigol ac ymlusgiaid.
“Mae ein gwaith wedi bod yn hanfodol ac yn helpu i warchod a gwella bioamrywiaeth a gwerth Niwbwrch o safbwynt cadwraeth natur. Mae sicrhau bod safleoedd fel y rhain yn iach yn ein helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur.
“Mae holl waith prosiect Twyni Byw yn cael ei gyflawni gyda'r nod o gadw twyni tywod a chynefin coedwig Niwbwrch yn iach.
“Hoffem ddiolch i aelodau’r cyhoedd am eu cefnogaeth, a byddwn yn parhau i weithio’n agos gydag aelodau o’r gymuned a rhanddeiliaid i reoli’r safle pwysig hwn sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol.”
Mae ffensys newydd wedi cael eu gosod ynghyd â phum giât i ganiatáu i dda byw bori’n gynaliadwy, gan sicrhau bod da byw’n cael eu diogelu am flynyddoedd i ddod.
Bu rhaglen o reoli rhywogaethau estron ymledol yn canolbwyntio ar glirio cotoneaster, llawryf ceirios, crib-y-ceiliog a rhafnwydd y môr. Os na fydd y rhywogaethau hyn yn cael eu rheoli, gallant arwain at golli dolydd blodau gwyllt, nentydd sy’n llifo’n rhydd, a chribau creigiau cyn-Gambriaidd.
Dywedodd Richard Berry, Arweinydd Tîm Rheoli Tir CNC ar gyfer Niwbwrch:
“Rydym yn falch o weld gwaith prosiect Twyni Byw yn cael ei gwblhau gan y bydd yn hybu bioamrywiaeth, daeareg a bywyd gwyllt ac yn sicrhau buddion wrth symud ymlaen.
“Mae’r gwaith, sy’n mynd law yn llaw â gwaith rheoli tir CNC yn Niwbwrch, wedi helpu i wella gwerth cadwraeth y safle hwn.”