Gwaith ail-hadu i ddechrau ar Foel Morfydd wedi difrod gan dân
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn dechrau cam arall mewn prosiect adfer partneriaeth fawr ar Foel Morfydd mewn ymateb i dân gwyllt dinistriol yn ystod haf 2018.
Bydd y cam nesaf hwn yn golygu hau cymysgedd o hadau glaswellt ar yr ardaloedd sydd wedi'u difrodi waethaf, gyda'r nod o hybu planhigion brodorol i dyfu.
Gyda chymorth cyllid gan Gronfa Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau Llywodraeth Cymru, mae CNC yn gweithio mewn partneriaeth agos ag Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy (AHNE0), Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru a Hafren Dyfrdwy yn ogystal â thirfeddianwyr lleol a rheolwyr tir i gyflawni'r prosiect.
Bydd y cynllun yn defnyddio dwy dechneg hau i wneud y mwyaf o effeithiolrwydd y gwaith - hydrohadu (hydroseeding) a hau glaswellt confensiynol.
Mae hydrohadu yn dechneg sydd wedi'i defnyddio'n effeithiol ers dros hanner canrif ar dir sydd wedi'i ddifrodi gan dân ac mae'n golygu gwasgaru hadau glaswellt brodorol ynghyd â chymysgedd tomwellt arbenigol ar rannau o’r mynydd sydd wedi’u difrodi fwyaf.
Bydd elfen hydrohadu'r prosiect yn defnyddio llawer iawn o ddŵr a gyflenwir gan Hafren Dyfrdwy. Bydd y Gwasanaeth Tân yn darparu cymorth hanfodol drwy bwmpio dŵr i fyny'r mynydd a'i storio mewn cronfeydd dŵr dros dro. Mae'r ymarfer hwn hefyd yn rhoi cyfle iddynt hyfforddi ar gyfer unrhyw danau ucheldir yn y dyfodol neu danau gwyllt eraill anodd eu cyrraedd.
Bydd y gwaith hau glaswellt confensiynol yn digwydd ar rannau o’r mynydd sydd â llai o ddifrod a bydd yn cael ei wneud gan ddefnyddio tractor mynydd pwysedd isel gyda pheiriant gwasgaru hadau wedi'i osod. Ychydig iawn o ddifrod fydd y math hwn o dractor yn achosi i'r ddaear a bydd hefyd yn gallu symud ar draws tir anodd hefyd.
Meddai Nick Thomas, prif gynghorydd yn CNC:
"Mae Moel Morfydd yn gynefin effeithiol i fywyd gwyllt prin fel y gylfinir a’r grugiar ddu, mae'n cael ei ddefnyddio'n helaeth gan gerddwyr ac mae'n dir pori hanfodol i ffermwyr lleol. Roedd gweld effaith y tân yn 2018 yn dorcalonnus. Mae'r llystyfiant ar rai rhannau o'r mynydd wedi dychwelyd yn weddol gyflym ac mae'n galonogol bod gennym bellach yr adnoddau sydd ar gael i atgyweirio'r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt waethaf.
"Mae'r prosiect adfywio hwn yn ceisio cyweirio rhywfaint o'r difrod a achoswyd gan y tanau hynny ac rydym wrth ein bodd o fod yn gweithio gyda'n partneriaid i'w roi ar ben ffordd.
"Mae gweithio mewn partneriaethau ar brosiectau fel hyn yn golygu y gallwn sicrhau bod coedwigoedd Cymru yn derbyn gofal ac yn cael eu cadw er mwyn i genedlaethau presennol a chenedlaethau’r dyfodol eu mwynhau.”
Meddai Paul Scott, Uwch Reolwr Diogelwch Tân:
"Mae'r fenter hon yn ffordd wych arall o weithio mewn partneriaeth â'n cydweithwyr yn Gyfoeth Naturiol Cymru a phartneriaid eraill ac rydym yn falch bod ein criwiau'n gallu helpu i adfer y tir. Mae'r prosiect hwn hefyd yn rhoi cyfle i'n criwiau gynnal hyfforddiant hanfodol ar gyfer tanau mynydd ac ucheldir y gallem ni eu mynychu yn y dyfodol."
Bydd y cam hwn o'r prosiect yn dechrau ar 18 Hydref, gyda'r nod o orffen erbyn diwedd mis Tachwedd.
Bydd gwaith arall yma'r hydref hwn yn cynnwys torri grug. Yna bydd y toriadau'n cael eu gwasgaru ar dir sydd wedi'i ddifrodi, techneg sydd wedi profi'n llwyddiannus yma mewn blynyddoedd blaenorol.