Gwaith atgyweirio wedi'i gwblhau ar orsaf fonitro hanfodol ar Afon Taf

Cored ar draws yr Afon Taf

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cwblhau gwaith atgyweirio ar orsaf sy’n monitro lefel a llif Afon Taf ym Merthyr Tudful.

Cafodd y gored wrth yr orsaf fonitro ei difrodi gan lifoedd hynod o uchel yn ystod stormydd dinistriol Chwefror 2020, yn enwedig Ciara a Dennis.

Mae rhwydwaith CNC o fwy na 400 o orsafoedd monitro ledled Cymru yn darparu data byw ar lefel afonydd, glawiad a’r llanw, Defnyddir y data i roi rhybuddion llifogydd i bobl sy'n byw neu'n gweithio mewn ardaloedd perygl llifogydd.

Yr orsaf fonitro ar Afon Taf ym Merthyr Tudful yw un o’r safleoedd pwysicaf yng Ngwasanaeth Rhybuddion Llifogydd CNC ar gyfer cymunedau sy’n byw yn agos at Afon Taf.

Defnyddir y data i gyhoeddi rhybuddion llifogydd mwy na 1,700 eiddo mewn cymunedau, fel Merthyr Tudful, Aberfan, Troedyrhiw a Mynwent y Crynwyr yn nalgylch rhannau uchaf Afon Taf. Mae hefyd yn rhoi rhybudd cynnar o lefelau afonydd uchel ar gyfer rhybuddion llifogydd yn nalgylch rhannau isaf Afon Taf, gan gynnwys Pontypridd a Chaerdydd.

Fe wnaeth arolwg deifio a gynhaliwyd wrth archwilio asedau CNC ar ôl stormydd 2020 nodi ardaloedd o ddifrod i'r concrit a oedd wedi gadael bariau atgyfnerthu dur yn agored. Nododd yr arolwg hefyd ddifrod i'r bafflau pysgod a'r teils llyswennod sy'n eu helpu i fudo dros y gored ac i fyny'r afon i silio.

Cwblhawyd y gwaith dylunio ac atgyweirio gan gontractwyr ym mis Mehefin a mis Gorffennaf ar gost o £200,000.

Dywedodd Tim England, Rheolwr Gweithrediadau (Llifogydd a Dŵr) CNC:

“Mae’r stormydd dinistriol sydd wedi taro Cymru dros y blynyddoedd diwethaf wedi achosi llawer o ddifrod i’n hasedau rheoli perygl llifogydd.
“Mae'n bwysig bod ein gwasanaeth gwybodaeth ar gyfer perygl llifogydd a lefel afonydd yn gweithio'n iawn fel y gallwn rybuddio cymunedau sydd mewn perygl er mwyn iddynt fod mor barod â phosibl os bydd llifogydd yn digwydd. Mae'r data byw o'r gorsafoedd hyn hefyd yn adnodd gwerthfawr i’r rheini sy’n defnyddio’r afon er hamdden, fel pysgotwyr a'r rhai sy'n gwneud gweithgareddau dŵr.
“Mae’r gwaith atgyweirio yn golygu bod gennym orsaf fonitro fwy gwydn sy'n cyfateb i wasanaeth mwy gwydn i'r bobl sy'n byw ac yn gweithio yn yr ardal ac mewn cymunedau i lawr yr afon.
“Mae hefyd bellach yn amgylchedd mwy diogel i’n gweithwyr weithio ynddo ac mae’n sicrhau bod pysgod yn gallu parhau i fudo i rannau uchaf Afon Taf i silio.”

Gall pobl fynd i wefan CNC i weld gwybodaeth fyw ar lefel afonydd, glawiad a’r llanw, i chwilio am y rhybuddion llifogydd diweddaraf, neu i gofrestru i dderbyn rhybuddion llifogydd.