Nid yw’r llifogydd uchaf erioed yn eithriad – dyma’r realiti newydd
Os nad yw llifogydd wedi effeithio arnoch chi yn y gorffennol, nid yw'n golygu na fydd hyn yn digwydd yn y dyfodol.
Dyma neges Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wrth nodi dwy flynedd ers dechrau llifogydd Chwefror 2020 a gafodd eu hachosi gan Stormydd Ciara, Dennis a Jorge.
Arweiniodd y stormydd at y glawiad a lefelau afonydd mwyaf erioed ledled Cymru, a rhai o'r llifogydd mwyaf arwyddocaol a dinistriol a welwyd ers y 1970au gyda 3,130 o eiddo wedi'u heffeithio ledled y wlad.
Mae'r rhain, a'r stormydd a gafwyd yng Nghymru ers hynny, yn rhybudd amlwg y bydd llifogydd difrifol yn realiti llym newydd i gymunedau Cymru yn y dyfodol, ac mae'r angen i weithredu'n awr i baratoi ar gyfer effeithiau'r hinsawdd yn bwysicach nag erioed.
Dywedodd Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru:
Mae llifogydd yn drychineb personol iawn, ac mae ein meddyliau'n parhau i fod gyda'r rhai sy'n dal i adfer ac ailadeiladu.
Ond wrth i fwy a mwy o gymunedau sy'n cael eu heffeithio gan lifogydd bob blwyddyn gyfrif cost eiddo coll, cartrefi a busnesau sydd wedi'u difetha, ac wrth i bobl fyw gydag ofnau cynyddol am stormydd yn y dyfodol, rydyn ni'n gwybod bod angen gwneud cymaint mwy i baratoi ein hunain i wynebu heriau’r dyfodol.
Yn sicr, rhoddodd COP26 a'r signalau 'cod coch' o adroddiad y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd ysgogiad o'r newydd i lywodraethau fynd i'r afael â'r mater pwysig hwn. Rydym wedi gweld newid yn y ffordd y mae chwaraewyr allweddol yn meddwl am yr hinsawdd a'i effeithiau yn nes at adref.
Mae'r ffocws canolog a roddir ar newid yn yr hinsawdd yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, a'r pwyslais a roddir ar liniaru perygl llifogydd yn y dyfodol yn y Cytundeb Cydweithredu rhwng Llafur a Phlaid Cymru i gyd i'w groesawu.
Ond er bod cynnydd wedi'i wneud, mae'r broblem hinsawdd hefyd wedi cyflymu. Dyna pam mae angen i'n ffordd o feddwl a'n camau gweithredu i helpu i liniaru ac addasu i'w effeithiau fynd ymhellach ac yn gyflymach os ydym am sicrhau'r canlyniadau gwell o ran perygl llifogydd sydd eu hangen arnom ar gyfer pobl Cymru.
Mae heddiw (15 Chwef) yn nodi pen-blwydd Storm Dennis – yr ail a'r mwyaf dinistriol o'r tair storm i daro Cymru o fewn pedair wythnos ym mis Chwefror ddwy flynedd yn ôl.
Ers hynny, mae CNC wedi parhau i fuddsoddi mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd, mae’n arolygu ac yn atgyweirio lle bo angen, a gwneud gwaith cynnal a chadw pwysig i sicrhau bod pobl ac eiddo yn parhau i fwynhau’r manteision.
Yn ogystal â hyn, mae CNC wedi buddsoddi yn ei dimau ymateb i ddigwyddiadau ac wedi gwneud newidiadau a gwelliannau i systemau a phrosesau i gynyddu ei allu ei hun i wrthsefyll llifogydd yn y dyfodol.
Mae cynnydd hefyd yn cael ei wneud o ran datblygu cynlluniau llifogydd ledled Cymru, gan flaenoriaethu'r cymunedau hynny sydd fwyaf mewn perygl.
Mae'r prosiectau'n cynnwys:
Dalgylch Taf
Mae CNC wedi bod yn gwneud gwaith modelu manwl ar berygl llifogydd yn nalgylch Taf Isaf ac afonydd Afon Cynon a Rhondda i gefnogi'r cam nesaf o'r gwaith a gynlluniwyd i ddatblygu uwchgynllun rheoli perygl llifogydd strategol ar gyfer dalgylch afon Taf. Mae'r gwaith hwn yn cael ei wneud ar y cyd â'r holl awdurdodau rheoli perygl llifogydd yn yr ardal hon.
Pont Trelái, Caerdydd
Y mis hwn, cyhoeddodd CNC y byddai cynllun dal coed yn Afon Elái, a gynlluniwyd i ddal malurion mewn lleoliad diogel i fyny'r afon o bont sy’n cael ei rhwystro’n rhannol yn ystod tywydd garw, gan leihau'r perygl o lifogydd i 490 o eiddo yn ardaloedd Trelái a'r Tyllgoed yng Nghaerdydd.
Arllwysfa Nant Tregatwg
Mae gwaith i wella cyflwr strwythurol a maint yr arllwysfa i’r môr ar ddiwedd Nant Tregatwg wedi'i gwblhau yn y Barri. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod llifddwr yn cael ei gludo'n effeithiol allan i'r môr ac yn lleihau'r perygl o orlifo llanwol i'r ardal leol.
Llyn Tegid
Mae gwaith mawr ar y gweill yn Llyn Tegid yn Y Bala i sicrhau y gall barhau i wrthsefyll tywydd eithafol nawr ac yn y dyfodol. Y prif ffocws yw cryfhau argloddiau'r llyn ac amnewid yr amddiffyniad tonnau carreg ar lan y llyn.
Fodd bynnag, wrth i'r newid yn yr hinsawdd gynyddu'r tebygolrwydd y bydd tywydd mwy eithafol yn digwydd, y disgwyliad yw y bydd risgiau'n ehangu y tu hwnt i'r ardaloedd risg uchel a wyddom heddiw.
Dyna pam mae lansio Map llifogydd CNC ar gyfer cynllunio yn gam allweddol ymlaen o ran helpu cymunedau a busnesau i baratoi ar gyfer y dyfodol. Mae'r map, sy'n cefnogi'r polisi cynllunio TAN15 newydd, yn cynnwys gwybodaeth am newid yn yr hinsawdd am y tro cyntaf, gan ddangos sut y bydd newidiadau'n effeithio ar berygl llifogydd dros y ganrif nesaf ac yn dangos maint posibl llifogydd gan dybio nad oes unrhyw amddiffynfeydd ar waith.
Mae'r gwelliannau a wnaed i'r gwasanaethau digidol ar wefan CNC bellach yn golygu y gall rannu ei wybodaeth a'i rhagolygon arbenigol a yrrir gan ddata gyda phobl, cymunedau a pherchnogion busnes. Mae'r gwasanaeth i wirio perygl llifogydd yn ôl cod post, a'r cyfle i gael mynediad at lefel afonydd amser real, glawiad a dyddiad lefel y môr yn golygu bod gan bobl bellach yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt i ddeall eu perygl o lifogydd a pharatoi ar gyfer unrhyw effeithiau yn y dyfodol.
Ychwanegodd Clare Pillman:
Mae gwyddonwyr hinsawdd wedi tanlinellu nad yw'r llifogydd mwyaf erioed yn afreolaidd, maen nhw'n ddechrau normal newydd, a bydd y llifogydd yn gwaethygu, flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Dyna pam mae'n hanfodol bod pobl yn ymddiried yn y data a'r wybodaeth rydym yn ei rhannu, i ddeall eu perygl o lifogydd a deall y camau y gallant eu cymryd i leihau'r effeithiau pe bai'r llifddwr yn dechrau codi.
Er ein bod yn croesawu'r cyllid ychwanegol y mae CNC wedi'i gael i gynyddu ein gallu i baratoi ar gyfer y sefyllfaoedd hyn ac ymateb iddynt, rydym yn derbyn na fyddwn byth yn ennill y rhyfel yn erbyn grymoedd natur ar ein pennau ein hunain.
Ond drwy gydweithio, mae gennym fwy o botensial i leihau’r effeithiau. Bydd angen gwneud penderfyniadau anodd, a bydd yn cymryd amser, ymdrech sylweddol a newid diwylliannol ac ymddygiadol i wneud y gwahaniaeth sydd ei angen.
Ond rydym wedi ymrwymo i gydweithio â Llywodraeth Cymru a'n partneriaid i ddatblygu ein gwaith ymateb i lifogydd, ochr yn ochr â'n hymrwymiad i'r agenda hinsawdd, i wneud popeth o fewn ein gallu i leihau'r risgiau i gymunedau o effeithiau llifogydd yn y dyfodol.