Prosiect infertebratau yn y Creuddyn yn cofnodi rhywogaeth brin

Mae poblogaeth doreithiog o wyfyn prin wedi'i darganfod yn ei unig gynefin hysbys yng Nghymru.

Fe wnaeth arolygon arbenigol ar gyfer y gwyfyn pluog Wheeleria spirodactylus, fel rhan o brosiect Creaduriaid Cudd y Creuddyn, ganfod 1,109 o lindys – a elwir hefyd yn larfâu - ar y Gogarth yn Llandudno.

Dim ond yng Nghymru ar benrhyn y Creuddyn y ceir y micro-wyfyn - ardaloedd Llandudno, Llandrillo-yn-Rhos, Deganwy, Bae Penrhyn a Chyffordd Llandudno - gyda'r rhan fwyaf o’r cofnodion yn y gorffennol yn dod o’r Gogarth a Thrwyn y Fuwch.

Roedd yn bresennol ym Morgannwg gynt ond nid yw wedi'i gofnodi yno ers dros 100 mlynedd.

Mae'r prosiect yn bartneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Gwarchod Gloÿnnod Byw, sy’n sefydliad amgylcheddol dielw.

Fe'i hariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Rhwydwaith Natur Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i gryfhau gwydnwch amgylcheddol tir gwarchodedig Cymru.

Nod y prosiect yw deall a diogelu rhywogaethau prin a’r rhai sydd mewn perygl ar y Creuddyn drwy lywio gwaith rheoli cynefinoedd ar y Gogarth, Bryn Euryn, Nant y Gamar a safleoedd eraill yn yr ardal gobeithio.

Dywedodd Siôn Dafis, rheolwr prosiect Creaduriaid Cudd y Creuddyn:

"Mae Wheeleria spirodactylus yn ficro-wyfyn trawiadol iawn sydd ond yn mesur tua 2cm rhwng blaen pob adain.

"Mae ei larfâu’n bwyta Llwyd y Cŵn, sy’n berlysieuyn yn nheulu'r mintys sy'n gyffredin ar y Gogarth - ond cyn cynnal yr arolwg doedden ni ddim yn siŵr pa mor eang oedd ardal y gwyfyn ar y safle.

"Yn ystod y rownd gyntaf o arolygon cafwyd hyd i 1,109 o larfâu Wheeleria spirodactylus. Gan ystyried hefyd y gwyfynod llawn dwf sydd eisoes yn bresennol, mae'n debyg bod y staff a gynhaliodd yr arolwg wedi gweld mwy o'r gwyfynod pluog hyfryd hyn nag unrhyw un arall yn y DU.

"Bydd y prosiect hwn yn rhoi darlun diddorol o fywyd infertebratau yn yr ardal ac rydym am roi cyfle i’r gymuned leol wneud eu darganfyddiadau eu hunain a chodi ymwybyddiaeth o'r angen i warchod cynefinoedd."

Mae'r Gogarth wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Ardal Gadwraeth Arbennig.

Mae'n cynnwys glaswelltiroedd calchfaen llawn bywyd gwyllt sy'n gartref i nifer o rywogaethau prin ac eiconig ac mae wedi denu cenedlaethau lu o bobl o Oes y Cerrig hyd heddiw.

Dywedodd Charlotte Williams, Arweinydd Tîm Amgylchedd Conwy CNC:

"Mae'r prosiect hwn eisoes wedi rhoi canfyddiadau cadarnhaol iawn i ni a chipolwg defnyddiol ar sut mae'r pryfed prin hyn yn defnyddio'r cynefinoedd ar y Gogarth a fydd yn ein helpu i reoli’r cynefin ar eu cyfer yn y dyfodol.

"Mae graddfa a chyfradd colli bioamrywiaeth yn cyflymu, gan effeithio ar rywogaethau sy'n dibynnu ar ein hadnoddau naturiol. Mae gweithio mewn partneriaeth fel hyn yn ein helpu i adfer natur er budd pawb."

Meddai Goronwy Edwards, Aelod Cabinet Conwy dros yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau – Seilwaith:

"Rydym yn falch iawn bod y prosiect hwn eisoes wedi cofnodi nifer o wyfynod Wheeleria spirodactylus ac rydym yn awyddus i ddarganfod mwy am yr infertebratau sy'n byw ar y Gogarth.

"Byddwn yn defnyddio'r holl wybodaeth i'n helpu i reoli cynefinoedd ym mhob un o'r safleoedd gwarchodedig ar Benrhyn y Creuddyn."

Mae chwe arolwg wedi'u cynnal fel rhan o'r prosiect hyd yn hyn, gan gynnwys un sy'n edrych ar boblogaeth gwiddonyn hynod fach a phrin iawn Helianthemapion aciculare - cafodd ei ddarganfod am y tro cyntaf yn y DU ym 1992 ar y Gogarth, ac mae arolwg 2024 yn awgrymu mai dyma ei unig gartref yn y DU o hyd.