Mewnolwg o adfer mawndir Cymru i’r cyhoedd
I ddathlu Diwrnod Mawndiroedd y Byd ar yr 2il o Fehefin, gall pobl nawr chwilio ble adferir mawndir a gan bwy, gyda haen ddata sydd newydd ei lansio ar Fap Data Mawndiroedd Cymru.
Er mai dim ond 4% o dir Cymru y mae’r cynefinoedd gwerthfawr hyn yn eu gorchuddio, mae effaith y mawndir yn fawr wrth fynd i’r afael ag argyfyngau natur a hinsawdd, gan eu bod yn dal 30% o’r carbon sydd yn y tir. Serch hynny, mae 90% o'r mawndir hwn wedi'i ddifrodi ac mae'n rhyddhau nwyon tŷ gwydr i'r atmosffer.
Gall mawndir sydd wedi’i adfer leihau faint o nwyon tŷ gwydr sy’n cael eu hallyrru, arafu llif dŵr, dal carbon, a gwella bioamrywiaeth drwy ddarparu cynefinoedd unigryw ar gyfer amrywiaeth o fywyd gwyllt.
Trwy'r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd, a gaiff ei rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, mae camau blaenoriaeth ar y gweill i adfer y storfa garbon werthfawr hon yn ein tirwedd, gyda gwybodaeth am leoliadau bellach ar gael yn rhwydd ar y we.
Eglurodd Mannon Lewis, arweinydd strategol CNC ar y Rhaglen Mawndiroedd:
Mae mawndiroedd yn darparu gwasanaeth mor werthfawr i ni i gyd fel un o’r ffyrdd mwyaf cost-effeithiol o storio carbon a darparu datrysiadau sy’n seiliedig ar natur i fynd i’r afael â materion fel rheoli risg llifogydd. Ac eto, gall mawndiroedd deimlo’n anghysbell ac yn anhygyrch i lawer, a dyna pam ei bod mor hanfodol rhoi’r cyfle i’r cyhoedd gael mynediad at wybodaeth ynghylch lle mae’r gwaith adfer pwysig hwn yn digwydd.
Mae gan Fap Mawndiroedd Cymru, a gyflwynir gan y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd, haenau gwahanol o wybodaeth fel dyfnder mawn, stoc carbon, allyriadau, cynefinoedd, ac mae hefyd bellach yn darparu data ar gyfer 'gweithgarwch adfer'. Wrth glicio ar leoliad, mae cwymplen yn dangos pwy sy’n arwain y gwaith adfer, pryd, y raddfa, y dull adfer yn fras, a’r pecyn ariannu a ddefnyddiwyd.
Mae Map Mawndir Cymru eisoes yn boblogaidd, gyda dros 10,000 o ymweliadau ers 2022. Mae adfer mawndir yn cynnwys dros 100 o dechnegau ymyrryd, sy'n cael eu grwpio i gategorïau fel rheoli hydrolegol neu reoli llystyfiant, a rheoli erydiad.
Gwahoddir perchnogion tir ac aelodau'r cyhoedd i anfon manylion unrhyw fawndir nad yw wedi'i gofnodi ar y Map eto at npap@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.