Gwaith wedi'i gwblhau i adfer pwll er mwyn hybu bioamrywiaeth yn Wrecsam
Mae pwll a oedd yn methu dal dŵr am nifer o flynyddoedd wedi cael ei adfer er mwyn helpu i hybu bioamrywiaeth a bywyd gwyllt yng ngwarchodfa natur Aberderfyn yn Wrecsam.
Bydd y pwll ar ei newydd wedd o fudd i boblogaethau madfallod dŵr cribog, madfallod dŵr cyffredin, madfallod dŵr palfog, brogaod a llyffantod dafadennog, sydd oll angen pyllau fel hyn i fridio.
Cwblhawyd y gwaith hwn gan Tir Gwyllt a chafodd ei ariannu gan rownd un y Gronfa Rhwydweithiau Natur - menter a ddarperir mewn partneriaeth gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae gan y gronfa uchelgeisiau i gryfhau gwytnwch rhwydwaith Cymru o safleoedd gwarchodedig ar y tir a’r môr, gan gefnogi adferiad byd natur ac annog ymgysylltiad â chymunedau. Digwyddodd y gwaith rhwng 9 – 13 Ionawr.
Mae gwarchodfa natur Aberderfyn yn rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Stryt Las a'r Hafod ac Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Safleoedd Madfallod Johnstown. Tir Gwyllt sy'n berchen ar y safle ac yn ei reoli ac mae'n gorwedd drws nesaf i Barc Gwledig Bonc yr Hafod yn Johnstown, Wrecsam.
Dywedodd Anthony Randles, Arweinydd Tîm yr Amgylchedd gyda CNC:
“Rydyn ni’n falch ein bod wedi cwblhau’r gwaith o adfer y pwll hwn yng ngwarchodfa natur Aberderfyn yn Wrecsam.
“Bydd y pwll hwn yn hanfodol o ran rhoi hwb i’r amrywiaeth gyfoethog o amffibiaid ac yn gwella bioamrywiaeth y safle hwn yn Johnstown ymhellach.
“Bydd y gwaith yn gwneud cyfraniad pwysig i sicrhau bod safleoedd fel y rhain yn iach, sydd wedyn yn ein helpu i fynd i’r afael ag argyfwng yr hinsawdd a natur.
“Hoffem ddiolch i Tir Gwyllt am eu cydweithrediad yn ystod y gwaith hwn ac edrychwn ymlaen at weithio’n agos gyda nhw eto yn y dyfodol.”