Datgelu cynlluniau ar gyfer wal lifogydd i leihau'r perygl o lifogydd llanw yn Aberteifi
Mae cynlluniau ar gyfer wal lifogydd arfaethedig a fyddai'n lleihau'r perygl o lifogydd llanw i tua 90 o gartrefi a busnesau yn Aberteifi wedi cael eu datgelu wrth i Gynllun Llifogydd Llanw Aberteifi gyrraedd ei garreg filltir ddiweddaraf.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi amlinellu'r lleoliad dangosol ar gyfer y wal, a fyddai'n lleihau'r risg o lifogydd llanw i ardal Y Strand yn y dref. Byddai'r wal wedi'i lleoli rhwng maes parcio Gloster Row a'r afon, gan ddilyn wal bresennol yr afon mor agos â phosibl nes iddi gyrraedd y ganolfan ystafelloedd ymolchi. O'r fan honno, byddai'r aliniad yn ymestyn ychydig i sianel yr afon cyn dychwelyd i ffin bresennol yr afon o dan Gastell Aberteifi a gorffen ym Mhont Aberteifi.
Mae CNC yn ystyried y posibilrwydd o greu ardal gyhoeddus newydd y tu ôl i'r wal lifogydd ger Pont Aberteifi ac o flaen Castell Aberteifi, gan leihau perygl llifogydd a darparu gwelliannau i'r gymuned.
Roedd Chris Pratt, Rheolwr Prosiect CNC, yn cydnabod pryderon trigolion yr ardal,
"Rydym yn deall pa mor awyddus yw pobl sy'n byw yn ardal Y Strand i gael amddiffyniad rhag llifogydd llanw er mwyn lleihau'r perygl i'w cartrefi. Rydym yn gweithio ar gynlluniau i adeiladu amddiffyniad a fydd yn lleihau perygl llifogyddac yn ystyried codi lefelau'r môr a ragwelir yn y dyfodol."
"Rydym hefyd yn edrych ar ffyrdd o ddarparu buddion cymunedol lle bo hynny'n bosibl, felly nid yn unig y mae'r cynllun hwn yn darparu amddiffyniad, ond hefyd yn cefnogi'r ardal leol mewn ffyrdd eraill."
Mae CNC yn anelu at gadw'r llithrfa wrth ymyl maes parcio Gloster Row, a fyddai'n debygol o gynnwys gatiau llifogydd ar y brig. Yn ogystal, mae trafodaethau gyda'r Sgowtiaid Môr lleol a busnesau eraill yn parhau i sicrhau bod mynediad i'r afon yn cael ei gynnal.
Mae aliniad y wal arfaethedig yn dilyn ymgynghoriad â'r gymuned a gynhaliwyd ddiwedd 2022. Mae adborth o'r sesiynau hyn wedi cael ei ystyried yn ofalus ochr yn ochr â chyfyngiadau gan gynnwys yr ystyriaethau hanesyddol, heriau technegol a ffactorau amgylcheddol.
Gyda'r dyluniad amlinellol wedi'i gwblhau, mae CNC bellach yn cychwyn ar y cam dylunio manwl, a fydd yn pennu manylion terfynol adeiladu, deunyddiau, a gallu'r wal lifogydd i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol. Bydd y cam hwn hefyd yn archwilio gwelliannau cymunedol ac amgylcheddol pellach i gyd-fynd â'r gwaith craidd i amddiffyn rhag llifogydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu'r cyllid parhaus ar gyfer y cynllun.
Bydd CNC yn parhau i ymgysylltu â'r gymuned wrth i'r prosiect symud yn ei flaen, gan sicrhau bod y cynllun yn cynnig amddiffynfeydd llifogydd hanfodol tra hefyd yn gwella Aberteifi ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gyda 1 o bob 7 cartref a busnes yng Nghymru mewn perygl o lifogydd, a chyda'r argyfwng hinsawdd yn dod â thywydd mwy eithafol, mae'n bwysicach nag erioed bod pobl yn gwybod ac yn deall eu perygl llifogydd.
Cyn cyfnod y gaeaf, mae CNC yn annog pobl sy'n byw mewn ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd, ond nad ydynt wedi profi llifogydd o'r blaen, i gymryd tri cham syml i helpu i amddiffyn eu cartref, eu heiddo a'u teulu rhag effaith ddinistriol llifogydd yn y dyfodol:
- gwiriwch eich perygl llifogydd drwy god post ar-lein ar wefan CNC
- Cofrestrwch am rybuddion llifogydd am ddim gan afonydd a'r môr yn Gymraeg neu Saesneg
- bod yn barod pan fydd llifogydd yn cael eu rhagweld
Mae cylchlythyr digidol ar gyfer trigolion a phobl eraill sydd â diddordeb yn y cynllun wedi cael ei lansio. Gall pobl gofrestru ar gyfer y cylchlythyr trwy ddefnyddio'r ddolen hon: https://bit.ly/CylchlythyrCLlLlA