Cynlluniau ar gyfer prosiect ynni adnewyddadwy Port Talbot
Prosiect ynni adnewyddadwy ger Port Talbot yw'r cynllun diweddaraf i'w gyhoeddi gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wrth iddo barhau â’r gwaith o fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.
Clustnododd CNC ardal o dir ger Port Talbot fel un addas i'w ddatblygu, ac yn dilyn proses gynnig gystadleuol cynigwyd y cyfle datblygu i bartneriaeth rhwng Coriolis Energy ac ESB.
Bydd y cwmni nawr yn cynnal arolwg o'r tir ar gyfer datblygiad fferm wynt posibl a fyddai'n cyfrannu at darged Llywodraeth Cymru i gynhyrchu 70 y cant o drydan Cymru o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030.
Bydd Prosiect Bryn yn cael ei gynnal ar ystad goetir Llywodraeth Cymru sy'n cael ei rheoli gan CNC.
Yn dilyn arolygon cychwynnol, bydd angen i'r cwmni wneud cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad, gyda chyngor a chefnogaeth gan CNC.
Dywedodd Derek Stephen, rheolwr datblygu busnes masnachol ar gyfer CNC:
"Fel corff amgylcheddol mwyaf Cymru, nid ydym yn tanamcangyfrif ein rôl o ran mynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu Cymru o safbwynt newid hinsawdd.
"Yn ein hymateb diweddar i ddatganiad argyfwng hinsawdd Llywodraeth Cymru, gwnaethom nodi fod gweithredu datblygiad ynni adnewyddadwy ar dir yr ydym yn ei reoli yn flaenoriaeth i ni.
"Ond rydym ni hefyd yn cydnabod na allwn ni wneud hyn ar ein pen ein hunain. Mae mentrau fel Prosiect Bryn yn cynnig atebion creadigol i broblemau ynni ac yn caniatáu inni fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd drwy drydydd partïon.
"Mae manteision y rhain yn cael eu teimlo nid yn unig yn lleol, ond hefyd ar lefel genedlaethol."
Meddai Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Cabinet dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Llywodraeth Cymru:
"Rydym wedi ymrwymo i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr 80% o leiaf erbyn 2050. Mae datblygiadau ynni adnewyddadwy, fel Prosiect Bryn, yn allweddol i greu economi werdd a'n helpu i gyrraedd ein nod o ran ynni.
"Rwy'n falch bod gan y cais llwyddiannus fantais gymunedol gref a fydd yn ei gwneud yn bosibl i bobl leol ymuno â'r cynllun. Bydd y dull hwn yn sicrhau y bydd arian a gynhyrchir gan y cynllun yn aros yn y gymuned leol."
Meddai Jim Dollard, Cyfarwyddwr Gweithredol, Cynhyrchu a Masnachu ESB:
"Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i ymddiried y prosiect hwn i ESB a Coriolis yn garreg filltir o bwys ac yn bleidlais sylweddol o ymddiriedaeth yn ein partneriaeth hir sefydledig.
"Mae ESB yn falch o gefnogi'r gwaith o gyflawni amcanion ynni adnewyddadwy uchelgeisiol Cymru, wrth i ni geisio adeiladu dyfodol mwy disglair - sy'n cael ei bweru gan drydan glân – i'r holl gymunedau yr ydym ni'n eu gwasanaethu."
Ymgeisiodd 10 cwmni i gyd am y brydles, a phob un ohonynt yn canolbwyntio ar ddatblygu ffermydd gwynt. Ystyriwyd technolegau eraill yn y cynigion – gan gynnwys storio batris, ynni solar a dŵr – ond nodwyd mai fferm wynt yw'r cynllun mwyaf dichonadwy.