Patrolau i fynd i'r afael â photsio a throseddau gwledig
Mae patrolau traws-sefydliadol yn cael eu cynnal ledled Gogledd Cymru i helpu i amddiffyn poblogaethau pysgod rhag potsio yn y cyfnod cyn y Nadolig.
Mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) o Dimau Gorfodi’r Gogledd Ddwyrain a’r Gogledd Orllewin yn cydweithredu â Thîm Troseddau Gwledig Heddlu Gogledd Cymru ar gyfres o batrolau nos i fynd i'r afael â photsio a throseddau gwledig yn ystod y tymor silio ar gyfer pysgod.
Mae ein swyddogion yn ymuno â’r Heddlu yn eu cerbydau i ddarparu presenoldeb amlwg ar ffyrdd ac afonydd Gogledd Cymru.
Dros yr wythnosau nesaf bydd nifer o batrolau tebyg ar draws Gogledd Cymru. Bydd y dull hwn o weithio ar y cyd yn ceisio atal a chanfod pobl sy'n cymryd rhan mewn gweithgarwch anghyfreithlon.
Gall potsio anghyfreithlon gael effaith ddinistriol ar boblogaethau pysgod lleol, ac mae’r niferoedd dan fygythiad arbennig yn ystod y tymor silio ar gyfer eogiaid a brithyllod, sydd fel arfer yn digwydd o tua mis Tachwedd i fis Ionawr.
Mae CNC hefyd yn annog y cyhoedd i fod yn wyliadwrus ac i riportio unrhyw wybodaeth sydd ganddynt am botsio anghyfreithlon i'w dîm digwyddiadau.
Meddai Rhys Ellis, Arweinydd Tîm Amgylchedd CNC:
“Gall hyd yn oed potsio niferoedd bach o bysgod yn anghyfreithlon gael effeithiau niweidiol ar y stociau pysgod a gall unrhyw droseddau effeithio ar y poblogaethau am flynyddoedd. Gall hefyd effeithio ar y diwydiant pysgota sy'n werth miliynau o bunnoedd i economi Cymru bob blwyddyn.
“Os ydych chi'n gweld unrhyw weithgaredd amheus neu anghyfreithlon yna rhowch wybod amdano ar ein llinell gymorth digwyddiadau ar 0300 065 3000.”
Dywedodd y Rhingyll Peter Evans o Dîm Troseddau Gwledig Heddlu Gogledd Cymru:
“Mae cydweithio ar batrolau rhagweithiol gyda'r nos yn hanfodol. Drwy weithio gyda'n gilydd, gallwn dargedu'r rhai sy’n bwriadu cyflawni troseddau gwledig.
“Byddwn hefyd yn gofyn i'r cyhoedd fod yn wyliadwrus ac yn effro mewn perthynas â photsio, a rhoi gwybod i'r Tîm Troseddau Gwledig drwy ein gwe-sgwrs fyw os byddwch chi'n dod ar draws digwyddiad o'r fath.”