Mwy na 50,000 o goed derw i gael eu plannu yn Ne Cymru
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gobeithio plannu degau o filoedd o goed derw newydd ar draws y De Ddwyrain a'r De Orllewin, gan greu cynefinoedd coetir newydd ac adfer coedwigoedd llydanddail ar gyfer bywyd gwyllt a phobl.
Ddwy flynedd yn ôl, gwirfoddolodd staff CNC i gasglu mes o goed o ansawdd rhagorol o amgylch Casnewydd a Trefynwy a'u hanfon i dyfu mewn meithrinfa goed yng nghoedwig Delamere, Swydd Gaer.
Cafodd sawl un o nodweddion y coed eu hasesu, gan gynnwys eu siâp, eu maint, eu hoedran a maint eu dail. Mae coed derw sy'n perfformio'n dda yn y categorïau hyn yn cynhyrchu mes sy'n fwy tebygol o dyfu'n goed o ansawdd uchel.
O'r 70,000 mes a gasglwyd, mae 51,000 wedi aeddfedu'n llwyddiannus a’r bwriad yw eu hailblannu ger eu safleoedd casglu gwreiddiol ar draws De Cymru
Mae ailblannu'r coed hyn ger eu safleoedd gwreiddiol yn sicrhau eu bod yn gweddu'n dda i'r amgylchedd ac mae’r risg y byddant yn gwasgaru clefydau planhigion yn fychan iawn.
Cafodd y mes eu casglu a’u dethol â llaw sy’n golygu y gallai CNC sicrhau fod y mes a gaslgwyd o safon uchel.
Meddai Jonathan Singleton, Swyddog Gweithrediadau Coedwig CNC:
"Mae diogelu'r amgylchedd yn rhan enfawr o'r gwaith rydyn ni'n ei wneud, mae hyn nid yn unig yn cynnwys gwarchod cynefinoedd sydd eisoes yn bodoli ond creu rhai newydd hefyd.
"Ddwy flynedd yn ôl, roeddem wrth ein boddau ein bod wedi llwyddo i gasglu cymaint o fes a nawr bydd gennym ddigon o blanhigion aeddfed i dyfu llond mwy na 30 o gaeau pêl-droed o goed derw.
"Bydd nifer o fanteision yn dod yn sgil y coetiroedd llydanddail newydd hyn, gan gynnwys cynefin newydd i fywyd gwyllt ffynnu ynddo a miloedd o goed i helpu i frwydro yn erbyn newid hinsawdd."
Y ddau brif safle lle casglwyd y mes oedd clybiau golff Rolls of Monmouth a Chasnewydd.
Dylai’r coed gael eu dosbarthu yn y Flwyddyn Newydd i'w safleoedd dynodedig, a bydd 25 ohonynt yn cael eu hailblannu yng Nghlwb Golff Rolls of Monmouth.