Ein ymateb i adroddiad ‘Darlun o Reoli Perygl Llifogydd’ gan Archwilio Cymru
Yn ymateb i adroddiad Darlun o Reoli Perygl Llifogydd gan Archwilio Cymru, meddai Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Fel y mae adroddiad Archwilio Cymru yn ei amlinellu, mae’n amlwg nad yw gallu Cymru i wrthsefyll llifogydd a achosir gan yr hinsawdd yn cadw’n wastad â’r risg cynyddol, ac mae angen gweithredu’n barhaus nawr i addasu i heriau’r dyfodol.
“Dros y blynyddoedd a’r misoedd diwethaf, mae effaith newid hinsawdd ar ein stepen drws wedi dod yn fwy amlwg. Mae buddsoddiadau a wnaed i adeiladu a chynnal amddiffynfeydd llifogydd ac i gynyddu ein gallu ein hunain dros y blynyddoedd wedi arwain at wella gallu Cymru i wrthsefyll glawiad eithafol yn sylweddol, ac wedi helpu i leihau’r perygl o lifogydd i filoedd o eiddo ledled Cymru.
“Ond mae’n bosibl na fydd yr hyn sy’n effeithiol heddiw yn ddigon i ymdopi gyda heriau’r dyfodol. Bydd angen i ni gyflwyno dull gwahanol er mwyn lleihau perygl llifogydd yng Nghymru dros y blynyddoedd nesaf.
“Mae’n golygu gwneud penderfyniadau mawr ynglŷn â lle’r ydym ni’n byw ac yn gweithio a dysgu i fyw gyda mwy o ddŵr – ac i wneud hynny’n well nag erioed o’r blaen. Mae’n golygu bod angen i ni adeiladu neu addasu eiddo i allu gwrthsefyll llifogydd yn well, fel bod pobl a busnesau’n gallu ymateb yn gynt pan fo lefelau dŵr yn dechrau codi. Mae angen i ni sicrhau bod pobl yn gwybod beth maen nhw’n gallu ei wneud eu hunain i leihau effaith llifogydd. Bydd hefyd angen i ni fod yn fwy arloesol ac edrych ar atebion naturiol i ymateb i lifogydd a gweithio’n fwy effeithiol gyda pherchnogion tir i wneud lle i’r lefelau dŵr sylweddol yr ydym ni’n eu gweld yn ystod llifogydd.
“Ond nid oes modd datrys y broblem gydag un ateb unigol. Er bod CNC yn buddsoddi’n sylweddol mewn amddiffynfeydd llifogydd, nid yw’n bosibl atal pob llifogydd bob amser ym mhob rhan o Gymru, a bydd angen cyfuniad o fesurau i helpu cymunedau i fod yn fwy gwydn. Gyda hynny, daw’r angen am fuddsoddiad pellach yn ein hadnoddau dynol. Bydd angen mwy o staff arbenigol a medrus i ymdrin â’r materion cymhleth hyn gan fod yr angen o ran adnoddau yn fwy ac am gyfnod hwy na’r hyn sydd ar gael i ni ar hyn o bryd.
“Bydd costau addasu bob amser yn broblem, yn enwedig pan fo pwysau ar wariant cyhoeddus a chostau byw personol. Ond yn y pen draw, nid oes unrhyw ddatrysiad cyflym ar gael, ac mae amser yn brin er mwyn cymryd y camau angenrheidiol i liniaru ac addasu i effeithiau newid hinsawdd. Mae angen i gymdeithas a Llywodraethau ar bob lefel gydnabod brys a phwysigrwydd dull cyfannol o edrych ar wytnwch, a chynyddu lefel parodrwydd y genedl i reoli a lliniaru’r perygl llifogydd cynyddol sydd ar y gorwel o ganlyniad i’r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae effeithiau newid hinsawdd yn digwydd nawr, ac mae angen i ni weithredu nawr.”