Rhannwch eich barn ar sut i reoli Coedwig Alwen yn y dyfodol
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn annog trigolion sy'n byw ger Coedwig Alwen, Sir Ddinbych, i roi eu barn am gynllun newydd i reoli'r goedwig.
Mae CNC - sy'n rheoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru ledled Cymru - yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus fel y gall barn trigolion ddylanwadu ar sut y rheolir y goedwig, sy'n cwmpasu 1383ha, am y 10 mlynedd nesaf a thu hwnt.
Mae'r cynllun yn amlinellu amcanion tymor hir ac yn cynnwys strategaethau ar gyfer sut y bydd CNC yn cynnal cyflenwad cynaliadwy o bren, yn adfer nodweddion coetir hynafol, ac yn gwella profiadau ymwelwyr drwy ddarparu amgylchedd diogel a phleserus.
Meddai Aidan Cooke, Uwch Swyddog CNC ar gyfer Gweithrediadau Coedwig:
"Mae coedwigoedd iach yn hanfodol i'r amgylchedd a bioamrywiaeth leol yn ogystal â'r economi a diwylliant lleol. Maen nhw'n cynnig pren at ddefnydd dyddiol, lleoliadau hyfryd i ni dreulio amser ynddynt a help llaw hollbwysig yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.
"Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw ein coetiroedd ac rydym am sicrhau bod y bobl sy'n lleol i Goedwig Alwen yn cael cyfle i ddylanwadu ar sut y caiff ei rheoli yn y dyfodol."
Gall pobl ddarllen manylion y cynlluniau a gadael adborth drwy ymgynghoriad CNC ar-lein.
Mae'r ymgynghoriad ar agor tan ddydd Gwener, 16 Rhagfyr 2022. Cynhelir sesiwn galw heibio yng Nghanolfan Addysg Uwchaled, Cerrigydrudion rhwng 3.30-7.30pm ddydd Mercher 7 Rhagfyr 2022 er mwyn i aelodau o'r cyhoedd gael trafod wyneb yn wyneb â chynllunwyr coedwig CNC.
Gall unrhyw un sy'n dymuno cymryd rhan ond sydd ddim yn gallu gweld y cynigion ar-lein ffonio 0300 065 3000 neu e-bostio forestoperationsne@naturalresources.wales a gofyn am gopi caled.