CNC yn croesawu ymrwymiad i fuddsoddi ym mherygl llifogydd Cymru ar gyfer y dyfodol
Does dim ddwywaith bod angen gweithredu ar raddfa fawr er mwyn addasu i’r argyfwng hinsawdd – dyna a ddywedodd Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) heddiw (15 Mawrth) wrth i’r corff amgylcheddol groesawu ymrwymiad ariannol Llywodraeth Cymru i gryfhau amddiffynfeydd rhag llifogydd ac amddiffynfeydd arfordirol yn y wlad.
Mae Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd, wedi crybwyll amrywiaeth o brosiectau a fydd yn cael cymorth ariannol yn ystod y flwyddyn sydd i ddod fel rhan o’r Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol ar gyfer 2022-23.
Gydag 1 o bob 8 (oddeutu 245,000) eiddo yng Nghymru mewn perygl o ddioddef llifogydd, bydd yr ymrwymiad yn galluogi CNC i fwrw ymlaen â’i gynlluniau i adeiladu a chynnal a chadw amddiffynfeydd rhag llifogydd ar draws ardaloedd perygl llifogydd allweddol ledled y wlad.
Daw’r cyhoeddiad hwn rai wythnosau ar ôl cyhoeddi adroddiad diweddaraf y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd (IPCC), lle tynnwyd sylw at y ffaith y dylai’r byd gymryd camau ar frys i liniaru effeithiau newid hinsawdd.
Disgwylir y bydd tywydd eithafol yn digwydd yn amlach yng Nghymru yn y dyfodol, ac y bydd yn fwy difrifol. Bedwar mis yn unig ar ôl COP26, lle ymrwymodd arweinwyr y byd i gymryd camau di-oed i fynd i’r afael â newid hinsawdd, ystyrir bod y dasg yn fwy taer nag erioed.
Yn ôl Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Fe fydd buddsoddi mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd a mynd ati i’w cynnal a’u cadw wastad wrth galon y dull a roddir ar waith yng Nghymru i reoli perygl llifogydd, ac rydym yn croesawu’r ymrwymiad hwn gan Lywodraeth Cymru i wella amddiffynfeydd ac i gefnogi prosiectau perygl llifogydd ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.
“Y mis diwethaf cyhoeddodd yr IPCC adroddiad yn tynnu sylw at yr angen brys i fynd i’r afael â mesurau addasu effeithiol, gan sôn hefyd am sut y bydd y camau a gymerwn heddiw yn siapio’r ffordd y bydd pobl yn addasu a’r ffordd y bydd natur yn ymateb i ysgytwadau yn y dyfodol.
“Golyga hyn fod angen inni roi sylw cyfartal i’n huchelgeisiau ar gyfer adferiad hinsawdd ac adferiad natur, gan ddefnyddio pob ysgogiad sydd wrth law i reoli perygl llifogydd.
“Mae angen inni ymgorffori cymysgedd o ddulliau rheoli perygl llifogydd – dulliau a fydd yn cynnwys gwaith peirianneg caled a mesurau seiliedig ar natur er mwyn helpu Cymru i wrthsefyll tywydd eithafol yn well. Mae hyn yn golygu y bydd angen gweithio i fyny’r afon i leihau perygl llifogydd, yn ogystal â gweithio i lawr yr afon i sicrhau y daw cyn lleied â phosibl o ddifrod i ran ein cymunedau ar ôl i unrhyw lifogydd ddigwydd ac y bydd modd iddyn nhw adfer yn gyflym.
“Mae’r dystiolaeth wyddonol yn ddiamheuol – oherwydd newid hinsawdd, mae tywydd eithafol yn fwy tebygol o ddigwydd, ac mae adroddiad yr IPCC ac ymrwymiadau COP26 yn dangos yn glir i bawb bod angen gweithredu ar raddfa fawr yn awr er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng.”
Ledled Cymru, mae 73,000 o adeiladau sydd mewn perygl o ddioddef llifogydd eisoes wedi elwa ar amddiffynfeydd rhag llifogydd a godwyd gan CNC.
Yn amodol ar gael y caniatâd a’r gymeradwyaeth berthnasol, mae’r cynlluniau a fydd yn elwa ar raglen llifogydd 2022/23 yn cynnwys:
Prosiectau newydd
- Datblygu uwchgynllun strategol i reoli perygl llifogydd ar gyfer dalgylch Afon Taf i gyd mewn ymateb i lifogydd Chwefror 2020. Mae CNC wedi bod yn cynnal gwaith manwl i fodelu perygl llifogydd yn nalgylch Taf Isaf ac ar Afon Cynon ac Afon Rhondda i ategu cam nesaf y gwaith o ddatblygu’r cynllun. Caiff y gwaith hwn ei wneud ar y cyd â holl awdurdodau rheoli perygl llifogydd yr ardal.
- Pwllheli, Gwynedd – Cynllun newydd i fynd i’r afael â pherygl llifogydd o du afonydd a pherygl llifogydd o du’r môr, sy’n effeithio ar gannoedd o adeiladau ym Mhen Llŷn.
- Y Bont-faen, Bro Morgannwg – dechrau ar waith adeiladu i fodloni rhwymedigaethau statudol CNC dan y Ddeddf Cronfeydd Dŵr i gyflwyno gwelliannau diogelwch i’r ardal storio llifogydd, gan ddiogelu cymunedau’r Bont-faen a Llanfleiddan.
- Afon Wydden yn Llandudno, Conwy – dechrau ar waith adeiladu i fodloni ein rhwymedigaethau statudol dan y Ddeddf Cronfeydd Dŵr i gyflwyno gwelliannau i’r ardal storio, gan ddiogelu cymuned Cyffordd Llandudno ynghyd â seilwaith hollbwysig fel yr A470.
Prosiectau sydd ar y gweill
- Stryd Stephenson, Casnewydd – dechrau ar waith adeiladu i wella amddiffynfeydd rhag llifogydd llanwol yn ardal Llyswyry, Casnewydd, gan leihau’r perygl llifogydd i 194 o gartrefi a 620 o fusnesau.
- Llyn Tegid, Y Bala, Gwynedd – parhau â’r gwaith diogelwch ar yr argloddiau a’r adeileddau sy’n amgylchynu’r Bala.
- Rhydaman, Sir Gaerfyrddin – gwaith adeiladu i wella amddiffynfeydd lleol rhag llifogydd yn Rhydaman; bydd 289 o gartrefi ac 13 o fusnesau yn elwa ar y gwaith hwn.
- Aberteifi, Ceredigion – bwrw ymlaen â datblygu cynllun ar gyfer ardaloedd sy’n dueddol i ddioddef llifogydd yn y dref o amgylch y Strand a Stryd y Santes Fair a datblygu gwaith dylunio yn barod ar gyfer adeiladu amddiffynfeydd yn y dyfodol.
- Llanfair Talhaearn, Conwy – cwblhau gwaith adeiladu ar gwlfertau a wnaed eisoes yn y pentref a’r gymuned ac ystyried mesurau eraill o fewn y dalgylch lleol.
Bydd arian ar gael hefyd i helpu i fwrw ymlaen â gwaith arfarnu manwl a gwaith datblygu prosiectau perygl llifogydd yn Ninbych-y-pysgod, Llangefni, Porthmadog, Llyswyry yng Nghasnewydd, Aberdulais a Bangor Is-coed.
Ymhellach, bydd CNC yn cael arian i barhau â phrosiect sy’n anelu at gyflwyno gwelliannau i’w system Rhybuddion Llifogydd, ei system TG a gwasanaethau cysylltiedig eraill, fel systemau proffwydo llifogydd a thelemetreg. Bydd hyn yn helpu i fwrw ymlaen â rhai o’r camau a nodir a rhai o’r gwersi a ddysgwyd yn sgil yr adolygiadau o lifogydd Chwefror 2020 pan ofynnodd CNC am weddnewid y modd y mae Cymru yn ymateb i’r argyfwng hinsawdd a’r modd y bydd yn rheoli perygl llifogydd yn y dyfodol.
Bydd y setliad ariannol hefyd yn galluogi CNC i fwrw ymlaen â gwaith mapio a modelu a fydd yn llywio cynlluniau addasu arfordirol a chynlluniau llifogydd posibl yn y dyfodol. Bydd hefyd yn cynorthwyo i gyflawni nifer o brosiectau llai ledled Cymru, yn cynnwys cynnal a chadw gwaith hydrometrig ac ailwampio ac atgyweirio’i amddiffynfeydd rhag llifogydd.