CNC yn rhybuddio yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol cyn penwythnos gŵyl y banc
Mae’r rhai sy’n bwriadu ymweld â lleoliadau awyr agored Cymru dros benwythnos Gŵyl y Banc a’r gwyliau hanner tymor yn cael eu hannog i wneud hynny yn gyfrifol ac i ystyried effaith ymddygiad anystyriol, fel gwersylla anghyfreithlon a thaflu ysbwriel, ar yr amgylchedd ac ar fywyd gwyllt.
Dyma'r alwad gan swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), sydd wrthi’n brysur yn cydweithio â phartneriaid i gyflwyno mesurau ychwanegol i batrolio llwybrau, gwarchodfeydd, a choetiroedd mewn paratoad ar gyfer y cynnydd disgwyliedig yn nifer yr ymwelwyr dros gyfnod y gwyliau.
Yn dilyn llacio cyfyngiadau coronafeirws, a chyda mwy o bobl yn dechrau crwydro ymhellach oddi cartref, mae adroddiadau cynyddol am ymddygiad gwrthgymdeithasol ymhlith nifer fach o bobl ar safleoedd CNC. Mae hyn yn cynnwys materion yn ymwneud â gwersylla anghyfreithlon, parcio cartrefi modur dros nos, tanau, gadael ysbwriel, a pharcio anghyfrifol, a dyw’r sefydliad heb oedi dim cyn condemnio hyn.
Dywedodd Richard Owen, Arweinydd Tîm Cynllunio Hamdden Ystadau a Stiwardiaeth Tir CNC:
"Rydyn ni'n gwybod bod y cyfyngiadau symud wedi bod yn anodd i bawb, ond er ein bod oll yn awyddus i fanteisio ar gyfleoedd i gyfarfod ffrindiau a theulu yn yr awyr agored, rydyn ni'n gofyn i chi beidio â gadael i’ch mwynhad amharu ar natur ac ar eraill.
"Mae angen i bob un ohonom fod yn garedig ac yn barchus tuag at fyd natur, gan gasglu ein holl eiddo ac ysbwriel heb adael unrhyw olion o’n hymweliadau. Mae’r holl achosion a welwyd o wersylloedd ddim yn cael eu clirio, o gynefinoedd yn cael eu difrodi, o bobl yn parcio ar ymyl y ffordd, yn ogystal â gadael sbwriel, yn gwbl annerbyniol ac maent yn niweidio enw da Cymru fel cartref rhai o dirweddau gorau’r byd.
"Wrth i ni edrych ymlaen at benwythnos hir arall, rydym yn annog pawb i fod yn ystyriol iawn o'r lleoedd y maent yn eu mwynhau, yn ogystal â'r bobl sy'n byw ac yn gweithio yn y cymunedau hynny, fel y gall eraill eu mwynhau hefyd."
Un o'r problemau mwyaf cyffredin yng nghefn gwlad Cymru yw effaith gwersylla anghyfreithlon - dyma’r term a ddefnyddir pan fo pobl yn codi pebyll neu’n parcio cartrefi modur a faniau heb ganiatâd y tirfeddiannwr.
Mae’r mater ar gynnydd ym mharciau cenedlaethol, yng nghoedwigoedd, ac yng ngwarchodfeydd natur Cymru ers llacio’r cyfyngiadau symud, gan arwain at ddifrod amgylcheddol a phryderon iechyd y cyhoedd.
O ystyried y pryder parhaus ynglŷn ag effeithiau posibl y coronafeirws, mae CNC yn annog y rhai sy'n dymuno gwersylla dros nos yng Nghymru y penwythnos hwn i weithredu'n gyfrifol ac i aros mewn gwersylloedd dynodedig yn unig.
Dywedodd Richard Owen:
"Mae’n safleoedd wedi bod yn llefydd croesawgar erioed, ond mae'n rhaid cynnal cydbwysedd rhwng dymuniadau a mwynhad unigolion, anghenion y cymunedau lleol, a pha mor fregus yw’n tirweddau.
"Yr oll yr ydym yn ei ofyn yw bod pobl yn dilyn y Cod Cefn Gwlad, ddim yn achosi difrod, a ddim yn gadael unrhyw beth ar eu holau."
Mae CNC yn gofyn i ymwelwyr i ystyried y chwe cham a argymhellir ganddynt er mwyn sicrhau trip diogel, gyda'r nod o annog pobl i wirio manylion eu cyrchfan cyn dechrau teithio.
Chwe cham i gael trip diogel:
Cyn eich ymweliad:
- Cynlluniwch ymlaen llaw- gwiriwch beth sydd ar agor ac ar gau cyn i chi gychwyn. Paciwch hylif diheintio dwylo a masgiau wyneb.
- Osgoi'r dorf– dewiswch le tawel i’w ymweld. Gwnewch gynllun wrth gefn rhag ofn y bydd eich cyrchfan yn rhy brysur pan fyddwch yn cyrraedd.
Tra byddwch chi yno:
- Parciwch yn gyfrifol– parchwch y gymuned leol drwy ddefnyddio meysydd parcio. Peidiwch â pharcio ar ymylon ffyrdd na rhwystro llwybrau mynediad brys.
- Dilynwch y canllawiau– cydymffurfiwch ag arwyddion a mesurau diogelwch Covid-19 yn ystod eich ymweliad.
- Ewch â'ch sbwriel adref– gwarchodwch fywyd gwyllt a'r amgylchedd drwy adael dim hoel o'ch ymweliad.
- Dilynwch y Cod Cefn Gwlad– arhoswch ar y llwybrau, gadewch gatiau fel yr oeddent, cadwch gŵn dan reolaeth, bagiwch a biniwch faw eich ci.
Gellir cael gwybodaeth am sut i baratoi ar gyfer eich ymweliad â safleoedd CNC yma.