Arolwg gan CNC yn datgelu cyfraniad y diwydiant adeiladu at statws Cymru fel un o wledydd mwyaf blaenllaw’r byd o ran ailgylchu
Mae arolwg a gynhyrchwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cadarnhau statws Cymru fel un o ailgylchwyr mwyaf y byd ar ôl canfod bod 90% o'i gwastraff adeiladu a dymchwel yn cael ei anfon i'w ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei adfer.
Amcangyfrifodd yr Arolwg o Wastraff Adeiladu a Dymchwel, a gynhyrchwyd ar ran Llywodraeth Cymru, fod 3.4M tunnell o wastraff wedi'i gynhyrchu yng Nghymru yn 2019.
Casglwyd data gan 508 o fusnesau o wahanol feintiau o amrywiaeth o sectorau adeiladu ledled Cymru rhwng mis Ebrill 2021 a mis Medi 2021.
Mae cywirdeb yr astudiaeth ddiweddaraf wedi gwella yn sgil lefelau cyfranogiad uwch ymysg sectorau allweddol a mabwysiadu gwersi a ddysgwyd o arolygon blaenorol.
Canfu'r arolwg fod y rhan fwyaf o wastraff adeiladu wedi'i gynhyrchu gan waith Adeiladu Peirianneg Sifil (36%), gyda'r sectorau adeiladu Cyffredinol a Domestig yn ail (16% yr un). Roedd y chwe sector adeiladu arall, gan gynnwys adeiladu priffyrdd ac adeiladau masnachol, yn cyfrif am lai na 10%.
O'r gwastraff a gynhyrchwyd, anfonwyd 90% i'w ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei adfer i'w ddefnyddio mewn mannau eraill.
Meddai John Fry, Prif Gynghorydd Polisi Gwastraff ar gyfer CNC:
"Mae defnyddio adnoddau Cymru'n gynaliadwy wrth wraidd popeth a wnawn ac rydym yn hynod falch o'r ffaith bod Cymru'n genedl sy’n ailgylchu cymaint.
"Mae arolygon fel yr un yma’n offeryn mesur pwysig ac mae'n galonogol gweld y diwydiant adeiladu a dymchwel yn trin gwastraff fel adnodd ac yn anfon llai i safleoedd tirlenwi.
"Er gwaethaf y canlyniadau gwych hyn, mae gwaith i'w wneud o hyd. Mae hyn yn cynnwys lleihau faint o wastraff sy’n cael ei gynhyrchu yn y lle cyntaf. Mae adroddiad yr arolwg wedi amlinellu cyfleoedd pellach i wella ac archwilio fel rhan o nodau rheoli cynaliadwy parhaus Cymru a'r ymgyrch hirdymor i greu economi gylchol."