CNC yn taflu goleuni ar gyfreithiau newydd sy’n ymwneud â rhywogaethau goresgynnol
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn annog y cyhoedd i gymryd sylw o ddeddfau newydd a fydd yn amlinellu rheolau a rheoliadau ynghylch rheoli ac atal rhywogaethau goresgynnol yng Nghymru.
Daeth Gorchymyn Rhywogaethau Goresgynnol Estron (Gorfodi a Thrwyddedu) i rym ar 1 Rhagfyr 2019 ac mae wedi'i gynllunio i sicrhau bod y 66 anifail a phlanhigyn sy'n rhywogaethau sy'n peri pryder yng Nghymru, y DU ac Ewrop yn cael eu rheoli'n briodol.
O dan y gorchymyn, gellir dirwyo pobl sy'n trin rhywogaethau goresgynnol os ydyn nhw'n cyflawni rhai gweithgareddau heb drwydded na hawlen.
Mae'r gweithgareddau hyn yn cynnwys: mewnforio, bridio, gwerthu, cludo a rhyddhau i'r amgylchedd, ymhlith eraill.
Gall CNC roi trwyddedau yng Nghymru am nifer o resymau, er enghraifft, os oes angen ymdrin â rhywogaeth oresgynnol newydd neu roi mesurau rheoli ar waith ar gyfer rhywogaethau sydd eisoes wedi ymledu'n eang.
Dywedodd Jennie Jones, cynghorydd arbenigol ar rywogaethau estron goresgynnol ar gyfer CNC:
“Mae Cymru’n gartref i ystod amrywiol o rywogaethau a chynefinoedd ac mae angen cydbwyso’r rhain yn ecolegol er mwyn i’r planhigion a’r anifeiliaid sy’n dibynnu arnyn nhw ffynnu.
“Gall rhywogaethau goresgynnol niweidio’r ecosystemau hyn mewn sawl ffordd gan gynnwys disodli rhywogaethau brodorol neu drwy ledaenu afiechydon.
“Bydd y deddfau newydd hyn yn ein helpu i amddiffyn ein planhigion a’n hanifeiliaid brodorol yn well trwy nodi canllawiau clir ar sut i atal a rheoli’r difrod a achosir gan rywogaethau goresgynnol.”
Mae Llywodraeth Cymru a Defra wedi cyhoeddi datganiad yn egluro eu safbwynt ar y cyd ar y gorchymyn gyda set wybodaeth fwy cyffredinol i'w rhyddhau yn dilyn yr etholiad.
Os ydych chi’n credu y gallai fod angen trwydded arnoch i gynnal gweithgareddau sy'n cynnwys rhywogaethau goresgynnol, gweler tudalen we Trwyddedu Rhywogaethau CNC.