CNC i sefydlu cynllun codi tâl rheoleiddiol amgylcheddol newydd
Bydd cynllun codi tâl newydd ar gyfer rhai o wasanaethau trwyddedu Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cael ei sefydlu o 1 Gorffennaf 2023, cadarnhaodd y corff amgylcheddol heddiw (23 Mehefin, 2023).
Ymgynghorodd CNC ar ei gynlluniau i ddiweddaru'r ffioedd ar gyfer rhai o'i drwyddedau ym mis Hydref y llynedd. Cynigiodd wneud newidiadau i nifer o gynlluniau codi tâl sy'n gysylltiedig â cheisiadau am drwyddedau newydd a thrwyddedau diwygiedig a fyddai'n golygu y byddai talwyr yn talu am y gwasanaethau rheoleiddio llawn y maent yn eu defnyddio. Yr uchelgais yw lleihau'r ddibyniaeth ar y trethdalwr a chreu cynllun sy'n gweithio'n well i fusnes a'r amgylchedd.
Mae'r Gweinidog dros Newid Hinsawdd, Julie James AS, wedi cymeradwyo'r cynigion a bydd CNC yn cyflwyno'r taliadau newydd a diwygiedig o 1 Gorffennaf ymlaen yn y meysydd canlynol:
- Rheoleiddio diwydiant
- Gwastraff ar safleoedd
- Ansawdd dŵr
- Adnoddau dŵr
- Cydymffurfiaeth ym maes cronfeydd dŵr
- Cyflwyno taliadau trwyddedu ar gyfer rhywogaethau
- Newidiadau i'r ffordd yr ydym yn diffinio ac yn cynnig cyngor cyn ymgeisio
Roedd cynnydd blynyddol mewn taliadau cynhaliaeth ar draws wyth cyfundrefn reoleiddio, sy'n bennaf yn cwmpasu'r ffioedd ar gyfer monitro cydymffurfiaeth, wedi cael eu cymeradwyo gan y Gweinidog yn flaenorol ac fe'u gweithredwyd ar 1 Ebrill 2023.
Dywedodd Pennaeth Rheoleiddio a Thrwyddedu CNC, Nadia De Longhi:
“Ar ôl i'r Gweinidog gymeradwyo ein cynigion, byddwn nawr yn gweithredu Cynllun Codi Tâl rheoleiddiol sydd wedi'i gysylltu'n agosach â'r gost wirioneddol o gyflawni'r gweithgareddau hyn ac i sicrhau mai talwyr taliadau, nid y cyhoedd, sy’n ysgwyddo'r gost.
“Rydym yn deall yr effaith ariannol y gallai ein cynigion codi tâl ei chael ar rai busnesau, yn enwedig o ystyried y pwysau ehangach o ran costau byw. Yn dilyn adolygiad o'r adborth a ddarparwyd yn ystod ein hymgynghoriad, rydym wedi cytuno ar sawl diwygiad i'r cynlluniau codi tâl arfaethedig.
“Rydym am adennill holl gostau ein gwaith rheoleiddio fel y gallwn ail-fuddsoddi adnoddau mewn mwy o weithgarwch cydymffurfio ac i atal llygredd rhag digwydd yn y lle cyntaf. Dylai’r canlyniad fod yn system codi tâl decach a mwy tryloyw a fydd yn arwain at warchod a gwella ein hamgylchedd naturiol yn fwy effeithiol.”
Bydd rhagor o wybodaeth am y cynllun codi tâl ar gael ar ein gwefan a3 3 Gorffennaf. Yn dilyn gweithredu'r taliadau newydd, bydd CNC hefyd yn darparu canllawiau a ffurflenni cais newydd i ymgeiswyr ar gyfer rhai o'i wasanaethau trwyddedu.
Gallwch weld yr ymateb i'r ymgynghoriad yma.