Prosiectau afonydd CNC i roi hwb i gynefinoedd pysgod
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn dechrau'r flwyddyn newydd drwy ddathlu cwblhau nifer o brosiectau afonydd gyda'r nod o wella cynefinoedd pysgod a rhoi hwb i'w poblogaethau.
Cafodd y prosiectau eu cynnal ar draws Cymru gan ganolbwyntio ar atgyweirio asedau sydd wedi’u difrodi a gwella strwythurau naturiol afonydd.
Cynhaliwyd prosiect ar gored banc Ogwen, Eryri, gan ganolbwyntio ar wella ac atgyweirio llwybr pysgod.
Roedd y llwybr pysgod, a adeiladwyd yn y 1930au, wedi bod yn dirywio yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae CNC wedi atgyweirio ac addasu'r ased gan alluogi mwy o bysgod i gael mynediad i'r cynefin i fyny'r afon.
Mae CNC hefyd wedi gwella ymfudiad pysgod yn Nant Clwyd. Roedd cored a reolai lefelau’r dŵr wedi'i difrodi'n rhannol, gan ei gwneud yn fwy anodd i bysgod fynd i fyny'r afon.
Golygai hyn nad oedd unrhyw eog wedi ei gofnodi yn y safle electro-bysgota i fyny'r afon ers 2009.
Gosodwyd morglawdd o glogfeini i gymryd lle'r gored isaf, gan godi lefelau dŵr a gwneud yr afon yn llawer mwy hygyrch i bysgod deithio i fyny'r afon.
Yn ogystal â gwella'r sianeli y gall pysgod deithio drwyddynt, roedd rhai prosiectau'n canolbwyntio ar wella safleoedd silio pysgod.
Roedd gwaith ar Afon Wen, un o lednentydd afon Mawddach, yn cynnwys ailosod gwelyau silio a olchwyd i ffwrdd gan lifogydd yn 2001 ac a ddifrodwyd gan banio aur yn y gorffennol.
Ailadferodd CNC 12 o drapiau graean sy'n gweithredu fel silfa ar gyfer pysgod ac o fewn pythnos roedd brithyll môr yn silio yn yr ardal.
Bydd trapiau fel y rhain yn helpu i roi hwb i boblogaeth y brithyll lleol, fel y maent wedi gwneud mewn sawl safle arall yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf.
Tra bod rhai o'r prosiectau hyn yn delio ag atgyweirio difrod a achosir gan achosion naturiol mae sawl un sy'n delio â diweddaru a chael gwared ar strwythurau wedi'u gwneud gan ddyn.
Mae Afon Tryweryn, Eryri, wedi bod yn ganolbwynt i CNC ers pedair blynedd ac mae'r ffocws hwn wedi bod ar wella'r cynefin islaw Llyn Celyn.
Roedd y gwaith yn 2019 yn cynnwys creu tri thrap graean i wella rhifau silio, tynnu hen sgrin bysgod a oedd yn atal pysgod rhag mynd i fyny'r afon a gosod cerrig mawr i greu cynefin mwy naturiol ar gyfer pysgod ifanc.
Sylwyd ar eog yn defnyddio'r trapiau graean o fewn dyddiau wedi i’r gwaith gael ei gwblhau.
Dywedodd Sian Williams, pennaeth gweithrediadau Gogledd Cymru ar gyfer CNC:
"Mae sicrhau bod cyrsiau dŵr Cymru yn iach yn waith pwysig nid yn unig i'r bywyd gwyllt sy'n dibynnu arnynt ond i'r bobl a'r cymunedau sy'n gwneud cystal.
"Bydd y prosiectau hyn yn gwella'r pysgod sy'n mudo ac yn silio ledled Cymru a'r gobaith yw y byddant yn gwella poblogaethau pysgod yn y wlad yn gyffredinol.
"Hoffwn ddiolch yn fawr i'n staff a'r holl bartneriaid sy'n ymwneud â'r gwaith gwych hwn."
Roedd prosiectau afonydd eraill a gwblhawyd yn 2019 yn cynnwys gwaith lliniaru afon Dwyfawr, rhaglenni monitro pysgod ar draws Gogledd Cymru a rhyddhau dros 9000 o dorgochiaid i'r gwyllt o ddeorfa pysgod Cynrig CNC.