CNC yn lansio map llifogydd ar gyfer cynllunio
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi lansio Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio sydd wedi’i ddylunio i ddarparu gwybodaeth well ar gyfer ceisiadau cynllunio mewn ardaloedd lle mae perygl llifogydd, sy'n disodli'r Map Cyngor Datblygu presennol.
Nod y map, sy'n disodli'r Map Cyngor Datblygu presennol, yw rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf a chywir i ddefnyddwyr am berygl llifogydd er mwyn cynllunio lleoliad datblygiadau'n effeithiol.
Mae'r map, sy'n cynnwys gwybodaeth am lifogydd llanwol, afonol a dŵr wyneb, ynghyd â phresenoldeb amddiffynfeydd llifogydd mawr, wedi'i gynllunio i dynnu sylw at ardaloedd sydd mewn perygl yng Nghymru a sicrhau bod sefydliadau'n lleoli datblygiadau yn y lleoliadau mwyaf priodol.
Cyfanswm y costau yswiriant sy'n gysylltiedig â llifogydd oedd tua £81 miliwn yng Nghymru y llynedd. Swm a gafodd ei ddylanwadu’n bennaf gan effeithiau Stormydd Ciara, Dennis a Jorge ym mis Chwefror ble dioddefodd dros 3,000 o eiddo o lifogydd. Bydd y map hwn yn caniatáu i ddatblygwyr osgoi a/neu gynllunio ar gyfer perygl llifogydd wrth adeiladu cartrefi neu fusnesau newydd.
Mae'r map newydd yn seiliedig ar y dechnoleg modelu perygl llifogydd diweddaraf a mwyaf cywir ar gyfer y prif ffynonellau perygl llifogydd.
Dywedodd Mark Pugh, prif gynghorydd ar gyfer dadansoddi perygl llifogydd CNC:
"Gall llifogydd ddinistrio cymunedau ac mae effeithiau newid hinsawdd yn golygu ein bod yn debygol o weld mwy o dywydd eithafol yn y dyfodol. Mae bod yn ymwybodol a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am berygl llifogydd yn bwysicach nag erioed, yn enwedig wrth ystyried prosiectau adeiladu.
"Mae ein map newydd yn welliant mawr ar ein un cynt, gan ddefnyddio'r data diweddaraf i roi asesiad clir o berygl llifogydd ardal fel bod pobl a sefydliadau mor wybodus â phosibl wrth gynllunio eu prosiectau.
"Gall anwybyddu perygl llifogydd mewn ardal arwain at ddatblygiadau mewn safleoedd amhriodol gyda'r potensial o gostau enfawr yn y dyfodol i leihau'r perygl o lifogydd. Rydym yn annog unrhyw gwmni neu sefydliad i gynnwys y gwasanaeth gwell hwn fel rhan o'u proses cynllunio."
Bydd y map newydd ar gael o 28 Medi ar wefan CNC: Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio / Map Cyngor Datblygu