CNC yn lansio prosiect Afon Dyfrdwy LIFE gwerth £6.8 miliwn
Heddiw, (dydd Gwener 18 Medi), mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn lansio prosiect adfer afon gwerth miliynau o bunnoedd i drawsnewid Afon Dyfrdwy a’i hamgylchoedd er mwyn gwella poblogaethau pysgod sy’n dirywio a bywyd gwyllt prin yn yr ardal.
Bydd y prosiect trawsffiniol gwerth £6.8 miliwn yn esgor ar fuddion sylweddol i’r amgylchedd, yn enwedig trwy wella niferoedd eogiaid, llysywod a misglod perlog, i’w cynorthwyo i fod yn fwy cynaliadwy yn y dyfodol.
Gyda’i dalgylch yn fwy na 695 milltir sgwâr (1,800 km), mae afon Dyfrdwy yn un o’r afonydd mwyaf rheoledig yn Ewrop. Ynghyd â Llyn Tegid, mae wedi’i dynodi’n Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA).
Bydd y gwaith cadwraeth a wneir yn ystod y prosiect o gymorth i ecosystem gyfan yr afon, trwy wella mudiad pysgod, bioamrywiaeth a chynefinoedd ar gyfer adar a mamaliaid. Bydd hefyd yn gwella ansawdd y dŵr a diogelwch o safbwynt defnydd hamdden.
Trwy weithio mewn partneriaeth â’r cymunedau lleol, tirfeddianwyr a chontractwyr, bydd y prosiect yn cynnwys tynnu coredau, adeiladu llwybrau pysgod, gwella sianel yr afon, ac addasu arferion ffermio a choedwigaeth. Bydd hefyd yn canolbwyntio ar fagu a rhyddhau’r fisglen berlog, sydd mewn perygl difrifol, hyd nes bod ei phoblogaeth wedi ei ailsefydlu.
Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:
“Mae’n bleser gennyf nodi lansiad prosiect Afon Dyfrdwy LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’n waith hynod o bwysig a fydd nid yn unig yn ein helpu i sefydlogi a gwrthdroi’r dirywiad ym mhoblogaethau pysgod, ond bydd hefyd yn cefnogi’r ecosystem ar hyd un o’r lleoliadau naturiol harddaf a mwyaf arwyddocaol yng Nghymru.
“Rydym yn awyddus i barhau i gydweithio â CNC a’n partneriaid eraill mewn prosiectau fel y rhain, a fydd nid yn unig yn cynorthwyo o ran hybu a gwarchod stociau pysgod sydd dan fygythiad, ond hefyd yn dod â manteision mewn meysydd eraill – megis treftadaeth, atal llifogydd a hamdden.
“Rwyf hefyd yn falch o gael dweud y bydd y prosiect, lle bo modd, yn cyflogi contractwyr lleol, a fydd yn bwysig tu hwnt i’r adferiad rhanbarthol wrth iddo adfer yn sgil effeithiau pandemig Covid-19.”
Ychwanegodd:
“Bydd gwaddol y prosiect hwn yn sylweddol, ac yn sicrhau bod yr ecosystem y mae Afon Dyfrdwy yn ei chynnal yn parhau ac yn rhoi boddhad i genedlaethau’r dyfodol.”
Dywedodd Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae hwn yn brosiect ar raddfa fawr, a fydd yn gwneud gwahaniaeth diriaethol gwirioneddol i Afon Dyfrdwy a’r ardal o’i hamgylch, nid yn unig o safbwynt amgylcheddol ond hefyd trwy greu budd economaidd-gymdeithasol i’r ardal hefyd.
Dyma’r tro cyntaf i CNC gyflwyno prosiect adfer afon sy’n mynd i’r afael â nifer o faterion ar draws dalgylch mor eang, ac mae’n dangos sut rydym yn gweithredu’n uniongyrchol ac yn ymateb yn ymarferol i’r heriau byd-eang yn ymwneud â cholli bioamrywiaeth ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng natur.”
Mae’r prif ddefnydd a wneir o Afon Dyfrdwy yn ymwneud â ffermio, pori gwartheg a defaid yn bennaf; darparu cyflenwad dŵr i 2.5 miliwn o bobl; twristiaeth yn cynnwys pysgota, canŵio a mordwyo hamdden; a chadwraeth natur.
Yn ystod y pedair blynedd nesaf, cynhelir dros 50 o ddigwyddiadau cyhoeddus er mwyn codi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth o werth a phwysigrwydd y prosiect ac Afon Dyfrdwy.
Ariennir y prosiect yn hael gan raglen LIFE yr UE, Llywodraeth Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Dŵr Cymru, a bydd yn rhedeg tan fis Rhagfyr 2024.
I gael mwy o wybodaeth am y prosiect, neu i wylio’r lansiad ar-lein, ewch i dudalen we’r prosiect, dilynwch @LIFEAfonDyfrdwy ar gyfryngau cymdeithasol, neu e-bostiwch y tîm ar lifedeeriver@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk