Adroddiad newydd yn rhybuddio am fygythiad i boblogaethau bach o eogiaid

Mae adroddiad newydd a gomisiynwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnwys rhai canfyddiadau syfrdanol ynghylch dyfodol poblogaethau eogiaid.

Mae adroddiad tystiolaeth The identification and characterisation of small salmon populations to support their conservation and management yn edrych ar ddirywiad poblogaethau eogiaid a siwin ledled Cymru ac yn ystyried a oes posibilrwydd y byddan nhw’n dod yn argyfyngus o fach, a phryd, er mwyn cefnogi eu cadwraeth a’u rheolaeth.

Mae’r adroddiad yn cadarnhau bod eogiaid yr Iwerydd dan fygythiad nid yn unig yng Nghymru ond drwy’r rhan fwyaf o’u cynefinoedd ond mae’n awgrymu y gallai eogiaid ddiflannu’n gyfan gwbl o lawer o afonydd Cymru o fewn y degawdau nesaf.

Dywedodd Ben Wilson, Prif Swyddog Pysgodfeydd CNC:

"Mae eogiaid yr Iwerydd a siwin yng Nghymru yn lleihau ar gyfraddau uwch nag erioed ac, mewn sawl ardal, maent yn is na therfynau biolegol cynaliadwy ar hyn o bryd.
"Mae rhagolygon bod poblogaethau bach mewn perygl o ddiflannu yn bryderus iawn, er bod ansicrwydd ynghylch graddfa a lleoliad unrhyw ddifodiant o'r fath yn parhau'n uchel ac mae rhai poblogaethau'n parhau'n gymharol sefydlog.
“Newid yn yr hinsawdd yw achos mwyaf tebygol y gostyngiad yn nifer yr eogiaid. Mae newidiadau yn amodau’r cefnfor yn golygu bod lefelau goroesi yn y môr gwael yn effeithio ar bob poblogaeth, ac mae tymereddau uwch afonydd yn ystod yr haf a’r gaeaf yn effeithio ar silio a goroesiad pysgod ifanc mewn llawer o afonydd Cymru.
"Mae effeithiau lleol fel ansawdd dŵr a chynefinoedd hefyd yn cael effaith andwyol ar niferoedd pysgod fel y dangosir gan yr amrywiad mewn poblogaethau cyfagos.”

Er gwaethaf rhybuddion enbyd yr adroddiad mae tystiolaeth yng Nghymru a thu hwnt bod stociau wedi gwella wrth i ffactorau oedd yn eu cyfyngu gael eu dileu neu eu lleihau, hyd yn oed pan fo poblogaethau eogiaid a siwin wedi gostwng yn sylweddol.

Er nad oes trothwy sefydlog yn bodoli lle mae adferiad yn amhosibl oddi tano, po hiraf y bydd poblogaethau yn parhau i fod o dan y terfynau diogel, y lleiaf tebygol fydd adferiad. 

Mae'r adroddiad yn pwysleisio mai adfer cysylltedd a gwelliannau o ran maint ac ansawdd y cynefinoedd sydd ar gael yw'r ffyrdd gorau o gefnogi ac adfer heigiau pysgod.

Ychwanegodd Ben:

"Er bod yr adroddiad yma’n cadarnhau nifer o'n hofnau, mae yna obaith o hyd y byddwn ni'n gallu gwrthdroi’r sefyllfa yma drwy gydweithio. Fel y dywed David Attenborough, 'Ni fu erioed amser pwysicach i fuddsoddi mewn bywyd gwyllt'. 
“Mae gan hanes eogiaid yn Ynysoedd Prydain ac mewn mannau eraill enghreifftiau o boblogaethau sydd wedi gwella ar ôl bod â phoblogaethau isel iawn, neu hyd yn oed ar ôl diflannu’n llwyr, unwaith y bydd y ffactorau sy’n eu cyfyngu’n cael eu dileu.
“I wneud hyn, mae angen gwell dealltwriaeth arnom o sut a pham mae poblogaethau’n dirywio ac yn adfer ac mae angen i ni ddarparu cyngor ymarferol ar beth i’w wneud pan fydd poblogaethau’n mynd yn argyfyngus o isel.  
“Mae’r gostyngiad yn nifer yr eogiaid yn enghraifft glir o golli bioamrywiaeth sy’n hybu argyfwng natur Cymru.
“Rhaid i ni adeiladu cynghrair eang ar draws pob sector a sefydliad i wreiddio meddylfryd a dull gweithredu o blaid natur ym mhopeth a wnawn i helpu i ailadeiladu ac adfywio’r ecosystemau rydyn ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw.”

Mae'r adroddiad llawn i'w weld yma https://cdn.cyfoethnaturiol.cymru/media/696308/nrw-evidence-report-no-674-the-identification-and-characterisation-of-small-salmon-populations-to-support-their-conservation-and-management.pdf